Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddadlau

ddadlau

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Pan gyrhaeddodd y Fishguard Express funudau wedi deg o'r gloch, er enghraifft, dringodd rhai picedwyr lwyfan troed y peiriant i ddadlau â'r gyrrwr ac i annerch y dyrfa.

Gellir hefyd ddadlau fod gwyddoniaeth wedi rhoi i ni arfau dieflig a llygredd byd-eang.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Mae cyfrifoldebau manwl - fel yswirio athrawon - yn awr i'w trefnu ar lefel ysgol unigol sydd heb lawer o rym (megis yr Awdurdod Addysg gynt) i ddadlau achos gyda chwmniau preifat.

Nid wyf yn un o'r rhai hynny sy'n ymatal rhag protestio yn erbyn anghyfiawnder a gormes trwy ddadlau mai dyna sydd i'w ddisgwyl mewn trefn filwrol.

ar y llaw arall gallwn ddadlau taw calon thematig dirgel ddyn yw : nad oes na galon thematig'.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Yr oedd cryn ddadlau ynglŷn â'r ffordd yr oedd Plaid Cymru ynghlwm wrth fudiadau rhyngblaid fel CND, nad oeddynt yn uniongyrchol berthnasol i genedl aetholdeb Cymreig.

Bu cryn ddadlau, a gwrthwynebu ar Morris-Jones, a hynny nid bob tro yn annheg.

Bu cryn ddadlau ymhlith y cyhoedd ynglŷn â ble y dylid cadw'r casgliad.

Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Bu llawer o ddadlau ynghylch ystyr awdl Hedd Wyn, a llawer o anghytuno.

Fodd bynnag, mae'n hysbys ddigon i Lywydd y Blaid Genedlaethol ddadlau'n daer ac yn llwyddiannus yn erbyn aelodau ifainc a ddeisyfai weld y Blaid yn datgan cefnogaeth i'r Weriniaeth ac i'r Basgiaid, yn dilyn cyrch awyr y Natsiaid yn erbyn Gernica.

Cerddodd Ifor ar ei hôl fel oen llywa'th, a'i awydd i gysgu yn gryfach na'r un i ddadlau hefo'r ffurat o'i flaen!

Felly mae lle cryf i ddadlau mai ystyr y gwreiddiol yw diwedd y briodas.

Mae dau aelod o dîm Stade Français, wedi'r holl ddadlau, nawr wedi clywed eu bod yn cael eu henwi am chwarae brwnt honedig yn erbyn Abertawe.

Yn ôl adroddiad mewn papur newydd mae hi'n dechrau dod yr un mor ffasiynol unwaith eto i ddadlau dros brisiau mewn siopau a marchnadoedd yng ngwledydd Prydain ag yw i ym masârs a chasbas y dwyrain.

Gellir yn deg ddadlau fod canlyniadau'r ddeddf hon wedi bod yn llawn mor bwysig i'r iaith Gymraeg â chanlyniadau'r Ddeddf Uno yn y dyfodol.

Ond ar yr un pryd ceir penodau lle mae'r pwyslais ar gyffroi dychymyg y pelntyn, drwy ei gael i'w roi ei hun yn sefyllfa cymeriadau hanesyddol, sef ymarferion yr 'empathi' bondigrybwyll, y bu cymaint o ddadlau yn ei gylch yn ddiweddar yn y wasg Seisnig.

Mae lle i ddadlau bod y Cristion yn cael dechrau newydd felly, (cymh.

Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.

Mae'r gwrandawiad Uchel Lys yn debyg o bara' diwrnod, wrth i fargyfreithiwr ar ran Sion Aburey ddadlau pwyntiau a allai weddnewid y berthynas rhwng y gwasanaethau cudd a'r bobol.

Gallent ddadlau nad oeddent yn gallu meistroli amodau creulon y gors.

Bu cryn ddadlau ynglŷn a'r enw Gwyddalus.

Wrth gwrs, os dymuna'r gyrrwr ddadlau'r mater, caiff beidio â thalu yn y fan a'r lle a dewis ymladd yr achos mewn llys barn þ hawl sy'n bodoli eisoes, fel y gwyddys.