Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddaethon

ddaethon

'Mi ddaethon ni yma i wneud job o waith a dyna ydan ni wedi'i wneud,' meddai.

Ar ôl i ni fod yn y farchnad, ac i Anti Nel brynu menyn yno, mi ddaethon ni'n ôl yma wedyn i ollwng y negas, a mynd i lawr i'r cei, i edrach os oedd cwch Uncle Danial yno.

'Mi ddaethon ni yma er mwyn eyfarfod â'r brenin ac nid i wylio arddangosfa o ddawnsio cyntefig, diolch i ti, wrth gwrs.'

Fe ddaethon nhw'n agos ddwywaith ond ymdrechion yr asgellwyr Kevin James a Shane Williams yn cael eu gwrthod.

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Fe ddaethon ni ar draws pedair menyw a'u plant yn ymolchi mewn ffynnon - yr unig gyflenwad o ddŵr ffres yn y pentre'.

Yn ystod ein cyfnod yn Kampuchea fe ddaethon ni i wybod fod yna gynhadledd ar hil- laddiad yn cael ei chynnal.

Pan ddaethon nhw a Dalier Sylw a Made In Wales i ben dywedodd Cyngor y Celfyddydau y byddai yna o leia ddeunaw o ddramau newydd yn cael eu llwyfannu.

Pan ddaethon ni i'r ddaear yn y diwedd, roedden ni ar fryncyn braf y gwair yn hir ac yn ir o'n cwmpas, fel matres esmwyth.

Fe ddaethon ni i wybod fod dwy Siwsan yn byw yn Israel.

Yn ôl cyfarwyddwr yr ysbyty Terry Leadbetter, ond ychydig ddyddiau oed oedden nhw pan ddaethon nhw yno ac roedd ganddyn nhw anafiadau.

Fe ddaethon ni i'r penderfyniad mai'r Cynulliad yw ein targed ni: er mai yn San Steffan y byddai angen pasio'r ddeddfwriaeth, fe ddylai gael ei chyflwyno gan y Y Cynulliad.

Fe ddaethon nhw i nôl fi allan, a mynnu 'mod i'n arwyddo ffurflenni yn datgan nad oedden nhw wedi fy nghamdrin a 'ngorfodi i wneud unrhyw beth yn erbyn fy ewyllys.

Pan ddaethon nhw allan i olau dydd unwaith et roedd y ddau wedi chwerthin cymaint nes roedd eu hochrau'n brifo.