Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddannedd

ddannedd

Ond mi gafodd hi rwbath i gnoi arno fo, o do, a'i gnoi o'n hir hefyd hefo'r hen ddannedd gosod 'na sgyni hi.

Traeth; Aberystwyth v Barcelona ar faes Park Avenue - dyna'r gemau sydd yn yr arfaeth ac sy'n tynnu dþr o ddannedd, bid siŵr.

Yna dyma nhw'n troi i ddannedd y gwynt ac yn eu hannog ymlaen rhwng y brigau a fflangellai eu hwynebau.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

"Ydych chi'n awgrymu newid y drefn bresennol?" holodd drwy'i ddannedd.

'Fe fyddi di'n talu'n ddrud am hyn, llanc,' meddai rhwng ei ddannedd.

Gofynnodd y Tywysog Bach iddo: 'Wyddoch chi sut i helpu fy rhosyn truan i, sy'n colli ei liw ac yn gwywo?' Dangosodd y Man Friday ei ddannedd mewn gwên fawr ac ateb: 'Mae'n rhaid i ti ei fwyta e'.

Pan ddaeth hyn i'w feddwl ac nid amheuodd am funud gywirdeb ei ddyfaliad rhinciodd ei ddannedd mewn cynddaredd, a melltithiodd fab y Plas o eigion ei galon.

Taflodd olwg i fyny'r grisiau, a'i ddannedd amlwg yn un wên fawr.

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

"Nadolig Llawen wir," meddai rhwng ei ddannedd.

Mae'n lle peryglus iawn i fechgyn bach fel chi,' meddai gan chwerthin a dangos llond ceg o ddannedd drwg.

Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.

Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.

Eisteddodd fy nhad ar flocyn o garreg a chael tynnu tri ar ddeg o ddannedd a mynd yn syth at ei waith.

'Diolch byth am ddannedd Berwyn y Ddraig.'

Hanes plant ar bob planed ydi hynna, yntê?' chwarddodd gan ddangos rhes o ddannedd mân, miniog.

Yr oedd ganddi ddannedd bach, gwyn, ac edrychai ar eu hol yn dda.

Mwy o duchan, 'roedd hanner awr wedi wyth yn agosa/ u, a nhad yn siarad rhwng ei ddannedd, wrth fethu'n glir â chael hyd i'r crys.

Ac wedyn, tynnu gwynt drwy ei ddannedd a fyddain gwneud i Perfect Storm ymddangos fel awel Mai o gael gwybod y pris go iawn.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

Corff heb ddannedd, na fawr o ddylanwad, ond corff er hynny y byddai Mrs Thatcher wedi ei wrthwynebu'n ffyrnig petae hi yn arwain y tîm yng Nghytundeb Maastricht.

HEULWEN: Mi ddylsen nhw basio cyfreth gwlad 'da dipyn o ddannedd iddi hi i stopio'r fandalieth 'ma unweth ac am byth.

Dyna i chwi lwybr ar ddannedd y graig sydd dros y Grib Goch, mae rhai yn rhedeg drosti, coeliwch neu beidio!

"A wela i ddim golwg o ddannedd peryglus chwaith."

Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi cael ei ginio a dechreuodd y dŵr redeg rhwng ei ddannedd wrth iddo feddwl am sglodion Mam yn frown-felyn ar y plât o'i flaen.

Anaml y gwelir pobl yn gorfod prynu sbectol rad yn Woolworth na threulio eu blynyddoedd heb ddannedd.

Deddf iaith ddi-ddannedd y galwom ni hi yn 1993, a dyna yw hi. 06.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

John Higgins yw'r daeargi miniocaf ei ddannedd yn y gêm.

Mwy o siarad rhwng ei ddannedd gan nhad.

Wedyn, gan wneud stumiau, camodd allan o'r bocs arwyddo i ddannedd y gwynt.