Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarbwyllo

ddarbwyllo

'Tasa fo'n werth 'i ddarbwyllo ella byddwn i'n rhoi cynnig arni.

Er iddi arddel rhyw syniad o fynd i nyrsio pan yn eneth ifanc, roedd y profiad gyda'r cwmni yn ddigon i ddarbwyllo Judith mai at fyd actio y buasai ei llwybr gyrfaol yn arwain.

yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch.

Rydw i'n gobeithio'n fawr," meddai wrthyf innau, "y bydd eich ysgrif chwi yn Y Gwyliwr yn help i'w ddarbwyllo fo." "Byth!" meddai Sam, yn bendant.

Ceisiodd Syr John ddarbwyllo ei fab hynaf y dylai weithio'n fwy dyfal gyda'i astudiaethau yn Ysbyty Lincoln oherwydd, oni wnâi ei hun yn addas ar gyfer bywyd Llundain, byddai'n rhaid iddo fodloni ar fywyd y wlad.

Ar ôl iddo ddarbwyllo'r capeli fod y Rhyfel yn un cyfiawn, 'roedd uffern Ffrainc a Fflandrys yn llawn o s^wn iaith y nefoedd.

Ond o blith cynllunwyr y theatr Gymraeg, mae un yn sicr yn adeiladu gyrfa lewyrchus iddo'i hun yng Nghymru a thros y ffin; a phetai unrhyw un yn meddwl am 'gynllunydd' fel rhyw fath o 'interior designer' wedi colli ei ffordd, buan y byddai sgwrs gydag Eryl Ellis yn ei ddarbwyllo fel arall.

Yr oedd Gwyn wedi cymryd hyn i'w ben a gwaith anodd fyddai ei ddarbwyllo fel arall.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

Nodiadau: Mae'n amlwg o eiriau'r dau gi o'r Quango Iaith eu bod am ddiogelu eu sefyllfa hwy eu hunain yn unig, ac yn mynd dros ben llestri wrth geisio ddarbwyllo eraill i ymmdiried yn y Bwrdd.