Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarlun

ddarlun

Yn wir, arddull rydd, fras iawn sydd i'w gweld yn y gwaith er ei bod yn arddull sydd yn medru amrywio o ddarlun i ddarlun yn ôl fel y bo'r galw.

'Roedd yn ddarlun o dristwch; ei gnawd yn oer, ei geg yn glafoeri, a'i lygaid mor bwl ddifywyd â llygad pysgodyn marw.

A dyma fi wedi rhoi rhyw fras ddarlun i chwi o hanes y Capel.

Pan ailgyhoeddwyd The Penguin Book of Welsh Verse, dewisodd y cyfieithydd, Tony Conran, ddarlun gan Paul, Heraldic Wales, i'w roi ar y clawr.

Yn llenwi tudalen ac yn aml yn ddarlun dros ddwy, mae'r lluniau'n cyfleu personoliaeth hoffus Tedi.

Y mae ef wedi awgrymu fod arwyddocâd dyfnach i ddarlun y Bucheddau o Arthur, ac o bosibl elfen o wirionedd hanesyddol.

Dau ddarlun cyferbyniol a beiddgar.

Cawsom ddarlun gwerthfawr o'i rieni gan yr Athro David Williams.

Cyflwynir yn y cofiant hefyd ddarlun eithriadol ddiddorol o fywyd Dei Ellis yn y Coleg ym Mangor, a darlun, yr un mor werthfawr, o natur yr addysg a geid yno bryd hynny, ac yn arbennig yn Adran Y Gymraeg.

O ganlyniad, rhoes ddarlun llawnach a chywirach o'r dyn na neb o'i flaen.

Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Daliodd i'w olygu hyd ddiwedd ei oes, a daliodd i ysgrifennu ar gyfer y werin yr oedd ganddo ddarlun mor ddelfrydol ohoni yn ei galon.

Y mae rhestrau aros yr awdurdodau lleol a Cymdeithas Tai Eryri yn dangos yn eglur yr angen honno, er efallai nad yw'n ddarlun llawn nac yn un y gellid ei gymharu rhwng dosbarth a dosbarth.

Yn ddarlun, yn wir, syn mynd i dynnu gwên i wyneb y rhan fwyaf ohonom ni.

Yna gwelodd Janet yn dod tu ôl iddo a gafael yn ei law a i geryddu: 'Robert, paid blino Miss Beti fel hyn!' Yn sydyn daeth iddi ddarlun rhithiol o bellter ei phlentyndod ei hunan, ac am rai eiliadau gwelodd wyneb Janet yn newid a throi'n wyneb Hannah unwaith eto.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Yr oeddent yn aml iawn yn cyd-weu i'w gilydd gyda'r naill ddarlun yn goleuo'r llall a'r cwbl yn awgrymu natur y waredigaeth ddwyfol.

Ein gobaith yw y bydd i'r ddarlun hon o Gymru 2000 sbarduno'n pobl i weithredu i atal y tueddion hyn a chreu dyfodol newydd i'n gwlad.

Problem arall yw nad yw grisiau'r tŵr yn weladwy i'r gynulleidfa drwy'r amser mewn cynhyrchiad teledu gan fod y camera'n crwydro at wyneb neu gorff ac yn symud i ffwrdd oddi wrth ddarlun cyfiawn o'r set.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Cadwai ddarlun yn ei stydi o'r gofeb fawreddog i goffa/ u'r Diwygwyr yng Ngenefa a mynegodd y farn mewn llythyr y byddai'n rheitiach peth i bobl ifainc Cymru fynd i weld y gofeb honno ar eu gwyliau haf yn hytrach na gwagsymera ar draethau Sbaen - "lle nad oes dim byd ond tywod".

a Prif ddarlun y waredigaeth yn yr Hen Destament oedd y Pasg pan waredwyd y genedl o'i chaethiwed yn yr Aifft a'i harwain i ddiogelwch trwy'r Môr Coch.

Ond y maen ddarlun gogleisiol - hwnnw o griw o fyfyrwyr ac ysgolheigion yn eistedd yn unigedd eu hystafell yn ceisio goglais eu hunain.

Meddyliwch am y rhaff hir wedi ei hel yn belen braidd yn flêr ac fe gewch ddarlun digon teg.

Yn aml mae yn defnyddio llawer o wyrdd yn flociau ar ddarlun siarcol neu inc du.

Dyma ei ddarlun o Dduw: Sant Heb fodfedd o nefi blw ar ei gyfyl, Yn ysbryd solat a diysgog yn ehangder y cymylau, Yn gosmig Ac yn or-gosmig Ac yn llawen farfog.

Tua phedwar o'r gloch, a hithau wedi gorfod cydnabod yn anfoddog na ddeuai o hyd i ddarlun arall yn y llyfrgell, magodd blwc i fynd i'r seler.