Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarn

ddarn

Fe roddodd ddarn o bapur yn fy nwylo a'r geiriau arno 'It gives me great pleasure to be here again in Wales'.

Dangos sut y bu i hyn ddigwydd a dangos goblygiadau'r digwydd yw prif bwrpas Gwanwyn yn y Ddinas, sef cyfrol sy'n ddarn o hunangofiant y bardd.

Y tro nesaf y byddwch yn yr ardd, gosodwch ddarn o hen gardbord ar y glaswellt, a'i adael yno am rai dyddiau.

Mae'r pamffledyn yn ddarn syfrdanol o feddwl hanesyddol a phroffwydol, a hwnnw wedi ei fynegi mewn rhyddiaith rymus, baradocsaidd yn aml.

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tþ efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.

A phan ddirywiodd ei iechyd, roedd bron yn gymaint o boen, hyd yn oed i'r 'nhw', â brad y siopwr o Brifweinidog a werthodd ryddid Tsecoslofacia am ddarn o bapur diwerth.

Ar amrantiad rywbryd ar ddarn o bapur yn rhywle, digartrefwyd ardal gyfan.

Trodd yn ei ôl o'r diwedd i ddiddosrwydd yr ogof a chanfod y Cripil yn gorwedd ar ei hyd ar ddarn o groen anifail o flaen tanllwyth.

Fe welir fod Gwyn, yn y sefyllfa yma, rywfaint yn nes ymlaen mewn 'datblygiad', gan ei fod wedi Castellu, a chan fod yn rhaid i Du gael dau ddarn mawr arall allan cyn y gall ef wneud hynny.

Wedi'r cyfan, nid ei ansoddeiriau cymwys, er bod y rheini ganddo, nid saerni%aeth gymesur mewn ysgrif a phennod, yw gogoniant Owen Edwards, ond ei ddarluniau o ddarn o wlad; ei bortreadau o ddynion a gyfarfu; ei ddoniolwch direidus; ei hynawsedd a'i radlonrwydd; yr ychydig wermod weithiau pan wêl "wyneb coch rhyw Philistiad o Sais ariannog"; ei onestrwydd unplyg wrth gofio am Gymru yn yr Eidal neu Lydaw, a dewis ei moelni digelfyddyd crefyddus hi o flaen pob ysblander lliw a chyfoeth.

I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.

Ar ôl bod yn ymarfer gydag arweinwyr eu hamryfal gorau daeth 200 o gantorion ifainc o bob cwr o Gymru ynghyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro, i recordio ar gyfer y teledu ddarn newydd gan Karl Jenkins ar gyfer Corau Ieuenctid a Cherddorfa, a gomisiynwyd yn arbennig gan Gerddorfa'r BBC.

Tynnodd Aun ddarn o bren un deg wyth centimedr o hyd o'i fag a cheisio mesur y pysgodyn aflonydd o faen ei drwyn i fforch ei gynffon.

Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Roedd llawer o'r cownteri yn gwbwl wag - ac eithrio ambell ddarn o gig neu damaid o gaws.

Byddai Ffrancon Thomas hefyd yn rhoi datganias ar yr organ - y mae gennyf ddarn o boster yn hysbysebu cyngherddau organ o'r cyfnod yn enwi Sandy McPherson a Ffrancon Thomas hefo'i gilydd.

Diffoddwch y goleuadau, a daliwch ddarn o gerdyn gwyn y tu ol i'r bowlen yr ochr arall i'r gannwyll.Dyma fydd y retina.

Yn ôl traddodiad, teithiodd San Ffraid yn wyrthiol dros Fôr Iwerydd ar ddarn o dywarchen.

Bob yn dipyn, fe fyddai'n dechrau camu'r haearn o fod yn ddarn unionsyth i fynd yn raddol yn gylch.

Y maent hefyd yn dileu ambell ddarn a oedd yn debyg o beri tramgwydd i'w cyfoeswyr hwy.

Mae anfon adroddiad adref o feysydd tramor heb yr hyn a elwir yn ddarn i gamera yn uchel ar restr pechodau marwol yr adran newyddion.

Os symudwch ddarn mawr allan i sgwâr lle mae'n gallu cael ei fygwth gan Werinwr y gelyn - yna bydd yn gorfod mynd yn ôl eto - a dyna chi wedi gwastraffu un symudiad o leiaf.

Ond mae'n debyg iawn fod pawb arall yn y pentre yma yn credu rhywbeth yn debyg i mi." Cerddodd Einion atynt gyda dau ddarn o wifren yn ei law.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Agorodd y bocs bron yn ddefodol, ac arllwys y ddau ddarn arian i mewn i'w dwrn chwith.

Yn sydyn, daethom allan i ddarn clir o'r goedwig lle roedd pistyll mawr yn dymchwel dŵr gwyn i'r cerrig glas.

Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.

mesurent y pellter rhyngddo a 'i ddarn pren, ond anodd oedd dweud a oedd o 'n ennill tir o gwbl.

Yn y llall, mae'r dyffryndir araul, heulog fel petai filoedd o droedfeddi yn is na'i chwe mil uwch lefel y mor: 'chwe mil o droedfeddi y tu hwnt i Ddyn ac Amser', chwedl Nietzsche; 'Brodir uwch brad yr oes', i fenthyg geiriau JM Edwards am ddarn o Geredigion.

Yn y stori, Prologema i Ddadansoddiad o ddarn o Sacriaeg Canol, yr hyn a gawn yw dadansoddiad o Sacriaeg Canol - iaith a ddyfeisiwyd gan yr awdur - gan Y Diweddar Athro Emeritws Ceirwy Léwþs Ma.

Fe ffonia i 'nôl.' Chwarter milltir o'i flaen, diflannodd Sierra glas Davies o amgylch cornel wrth i ddarn syth o ffordd ddirwyn i ben.

Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.

Dyma'r ddau ddarn:-Llwyd ...

Cynnwys y rhan hon hefyd ddarn helaeth o hen gomin y Goron hyd at bigyn deheuol y plwyf yng nghanol Llyn Eiddwen.

Ysgrifennais ar ddarn o bapur 'Mae'n bleser mawr i mi fod yma eto yng Nghymru'.

Gan afael yn ei ferch, Janice, gwnaeth Mr Parker hyn a llwyddodd hi i gropian i ddarn uwch a diogelach o'r llong.

'Tyd, tamaid o'r deisan gwsberis 'ma,' meddai Emrys, gan wthio cyllell o dan ddarn ohoni.

Amser maith yn ôl yr oedd Tonle Sap yn fraich o'r môr, ond gyda threigl y blynyddoedd ymffurfiodd y llaid a gludid gan yr afon i lawr i'r môr, yn ddarn o dir ar draws genau'r afon a chaewyd Tonle Sap i fewn.

Cyn inni ddechrau ffilmio fe gerddais o gwmpas ar fy mhen fy hun, ac, yng nghornel fy llygad, gwelais ddarn o bapur ar ochr un o'r tyllau mawr.

Felly, rhaid i ddarn o dir agored ger y fynedfa wneud y tro; mae hyd yn oed edrych ar 'y caeau cachu' yn ddigon i godi cyfog.

Ar ôl y chwerthin gorweddodd yn ei hyd ar y llawr am oriau a llawes ei gôt dros ei lygaid, yn ddi-deimlad a chysglyd a diegni, fel pe byddai'n ddarn o bren.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

O bryd i'w gilydd wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, byddai llefarydd ar ran y ddau arweinydd yn dod draw i gynnig ambell ddarn newydd ar gyfer y jig-so.

Mae'r holl ddarn yma o'r ewyllys yn dangos mor glos erbyn hyn oedd y cydweithio rhwng personiaid a sgweiriaid.

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.

Y mae ambell ddarn o graffiti yn codi dir uchel mewn celfyddyd weledol: Balls to Picasso - Ambell un yn grefyddol ei naws: "Jesus Saves--but Southall is better." Mae amryw byd yn rhywiol wrth gwrs ac mae waliau tþ bach yn feysydd ymchwil anhepgorol i'r sawl sydd am lunio Blodeugerdd o Limrigau neu hyd yn oed gasgliad o englynion coch.

Yr oedd y bwl yn ddarn cadarn o ganol y dderwen.

Bu'r oedi yn gyfle i Cura a'r Côr ymarfer ambell i ddarn a rhannu ambell i jôc wrth iddo chwarae'n bryfoclyd â'r gynulleidfa.

'Roedd gan y gof ddarn o gast wedi ei lunio ar lun yr olwyn ac yn ei ganol wacter lle yr âi hanner bwlyn yr olwyn i lawr iddo, yna 'roedd yr olwyn yn aros yn gadarn arno wrth osod y cant haearn am yr olwyn.

Roedd gwraig y saer coed wedi cael babi ac roedd weldar y dyn weldio wedi torri ar ganol y job a hwnnw wedi gorfod mynd i John O'Groats i nôl rhyw ddarn iddo.

Daethpwyd o hyd i olion deinosoriaid ar hyd y traeth yma, felly, Iwc dda i chi wrth edrych o gwmpas - efallai y dowch chi o hyd i ddarn o un o'r ymlusgiaid mawr!

Bydd pobl ifainc oed ysgol uwchradd yn canu, rapio a thapio trwy ddarn comisiwn arbennig gan y cyfansoddwr John Hardy, wedi ei sgrifennu ar gyfer myfyrwyr a Cherddorfa'r BBC.

Gosododd y Brenin Affos ddarn helaeth o dir yn union y tu allan i furiau ei balas i fod yn Lotments, a chyhoeddodd fod traean o bob gardd trwy'r deyrnas, gan gynnwys pob lotment, i dyfu wynwyn.

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.