Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarnau

ddarnau

Ar wahân i ddeugain munud yn y canol pan yw Pearl Harbour yn cael ei fomio'n ddarnau mân y mae gwylio Pearl Harbour, y ffilm, fel gwylio parodi o'r hyn oedd y ffilm i fod.

Fflangellai hi'n ddarnau mân.

O fewn ychydig fisoedd i ddrama Iorwerth Glan Aled weld golau dydd cyhoeddwyd yn y papur dylanwadol Yr Amserau ddarnau helaeth o ddrama ddychan yn dwyn y teitl Brad y Llyfrau Gleision heb enwi'r awdur.

Yn gyntaf, ymddengys smotyn bach ar y metel, a hwnnw wedyn yn tyfu ac yn disgyn i ffwrdd yn ddarnau man, gan adael arwynebedd bontydd haearn yn gwanhau ac yn dymchwel o achos rhwd, a peth cyffredin yw gweld darnau o rwd ar hen geir.

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

"Dyma'r goes fetel," gwaeddodd un o'r gelyn wrth edrych drwy ddarnau o'r Spitfire ar ôl iddi gwympo.

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

Ond er fod darnau o gymaint o bobol oeddem ni yn nabod yng nghymeriadau Nedw, yr oedd pawb ohonyn nhw yn bobl go iawn yn eu nerth eu hunain hefyd, ac ambell dro mi fyddai pobol y pentra yn troi yn ddarnau o gymeriadau Nedw.

Yna os ewch chi o gwmpas trwyn y Mwmbwls i lawr i fae Bracelet gallwch gasglu esiamplau o ffosil gwymon môr sy'n edrych yn debyg i ddarnau deg ceiniog crwn ar y creigiau ger gorsaf gwyliwr y glannau.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

I bwrpasau meddyginiaethol gellir paratoi sudd betys trwy grasu'r betys, eu plicio wedyn a'u malu'n ddarnau mân a'u rhoi trwy hidlen neu gymysgydd bwyd, ac yna ychwanegu dŵr neu ddŵr mwyn (mineral).

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Gelwir y Garreg Galch yn "ffug-brecia% oherwydd fd yna ddarnau o graig lliw tywyll yng nghanol y graig Iwyd frown, ac nid oes neb yn siwr sut y daeth y darnau lliw tywyll i fod yn y graig.

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Yn ychwanegol at y ddau brif syniad hyn am bechod ac iawn, y mae yna ddarnau unigol o fewn i'r Hen Destament sy'n dangos yn eu ffordd eu hunain ddirnadaeth unigryw o'r agwedd hon ar berthynas Duw a dyn.

Roedd gwynt mawr wedi taro eu llong ym Môr China, a'r llifeiriant wedi rhuthro i ystafell y peiriannau gan fygwth malurio'r llong yn ddarnau.

Cyfeithiad yw'r gwaith hwn o 'epistolau ac efengylau' y Llyfr Gweddi Gyffredin, hynny yw o'r gwahanol ddarnau o'r Ysgrythurau a ddarllenir yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys Loegr.

Yr oedd sodlau f'esgidiau'n ddarnau ymhell cyn i mi gyrraedd i'r trum.

Dewiswyd safle mewn dwr dwfn (Swnt Blasket, Iwerddon) gan y byddai hyn yn lleihau effeithiau cerrynt ac ymyrraeth gan rai'n chwilio am ddarnau i'w cadw.

Roedd o wedi gwisgo'r jîns oedd yn cynnwys y nifer mwyaf o ddarnau a phwythau, yr esgidiau duon a brynodd efo'r arian a gafodd y Nadolig, a'r siaced ddenim oedd yn llawn bathodynnau wedi eu gwni%o a'u sticio arni â phinnau.

Go brin y buasai testunau unigol cynnar megis gwaith Be/ roul neu Thomas ar gael iddynt, oherwydd mewn ychydig iawn, iawn o ddarnau llawysgrif anghyflawn y'i cedwid.

Yn y traethodau sydd wedi eu casglu yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi byddai cyfle iddo ystyried sut y trosid i'r Gymraeg yn y Cyfnod Canol ddarnau fel y Deg Gorchymyn, y Gwynfydau, Prolog Efengyl Ioan ynghyd ag ugeiniau o adnodau unigol o'r Hen Destament a'r Newydd.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

"Mae'n rhaid i mi nofio oddi wrth y propelor," meddai wrtho'i hun yn wyllt, "neu fe gaf fy nhorri'n ddarnau.

Astudiaeth o ddarnau arian Celtaidd, gyda ffotograffau du-a-gwyn.

Dewiswch ddarnau coch o gig gan dorri neu ddraenio unrhyw fraster.

Cymerodd bedwar diwrnod i garej ddod o hyd i'r creadur ym mherfeddion y cerbyd ac yn ystod y pedwar diwrnod hwnnw tynnwyd y Myrc yn ddarnau ond i ddim pwrpas.

Wrth reswm, roedd y rhain wedi gweld dyddiau gwell, ac roedd hi'n anodd dod o hyd i ddarnau sbâr ar eu cyfer.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.

Dim ond eiliad y cymerodd iddi gau'r drws, ond yn yr eiliad honno roedd hi wedi gweld Edward Morgan yn gorwedd ar y llawr a rhan uchaf ei gorff wedi ei rwygo'n ddarnau.

Ie, y cigydd, gan mai ef sydd yno yn torri corff dafad yn ddarnau hwylus i'w gwsmeriaid.

Mae hwn yn cynnwys pob math o ddarnau.