Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddatblygodd

ddatblygodd

Cafodd Llew ei ddal ynghanol ffrwgwd mawr a ddatblygodd rhwng Gina a'i gwr, Rod.

Clyma hon ynghyd bobl a rannodd yr un diriogaeth dros gyfnod hir o amser ac a ddatblygodd yn ystod cwrs ei hanes yn y famwlad, draddodiadau ac arferion a sefydliadau a'u gwahana oddi wrth bobloedd a chenhedloedd eraill Cynnwys y rhain fel arfer gyfraith, crefydd, sefydliadau gwleidyddol ac iaith, er nid yw'r nodweddion oll bob amser yn bresennol.

Yn hanes Russell hefyd, mae'n bosib' gweld elfen arall a ddatblygodd yn thema gref yn hanes gohebu tramor; y modd yr oedd personoliaeth y gohebydd ei hun yn dod yn bwysig a'r negesydd yn mynd yn rhan o'r stori.

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

Fel arfer bydd yno hefyd ddosbarthiadau ar gyfer bridiau eraill a ddatblygodd dros y ffin,m ar y cyfandir neu hyd yn oed medwn rhannau eraill o'r byd erbyn hyn.

Er ein bod ychydig yn ddrwgdybus o'n gilydd ar y dechrau, fe ddatblygodd perthynas dda rhyngom ni.

Cynhyrchiad llwyddiannus arall ar gyfer Radio 4 oedd yr Afternoon Play: Taming The Wart, sef hanes gwir dau frawd o Orllewin Cymru a ddatblygodd olew perllysieuol âr gallu i wella rhai mathau o ganser.