Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddatgan

ddatgan

Jones, ac arweiniodd syniadau Rhees a Simone Weil ef i ddatgan: "Heb gymdogion ni fedraf fi f'adnabod fy hun fel y gwypwyf pwy ydwyf," ac "Y mae ar bobl dyn angen ei wreiddio mewn pobl".

Prif nodwedd y diwinydd da yw ei allu i ddatgan bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono: prif nodwedd y gwleidydd da yw ei allu i ddangos bod gwleidyddiaeth iach yn fwy nag unrhyw athroniaeth wleidyddol.

Ein cais yn syml yw ar i'r Cynulliad ddatgan - yn ystod ei thymor cyntaf - fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Gallai ystyried y fath bethau arwain at ddatgan euogrwydd, at ailagor hen glwyfau, at addasu poenus.

Yn ddiweddar cryfhawyd ei bolisi iaith cynradd trwy ddatgan o blaid dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg.

I'r mwyafrif llethol, os gwyddent amdani o gwbl, rhywbeth od ydoedd, eithriadol, eithafol, y tu allan i lif normal bywyd, a orfodid ar eu sylw o bryd i bryd gan ddarn o newydd neu ddatgan wasg neu ar y radio.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

Dymuna Cymdeithas yr laith Gyrnraeg ddatgan ei chefnogaeth Iwyr i frwydr

Yn dilyn hyn bu i 11 o gonsortia ddatgan diddordeb yn ffurfiol ac aeth pedwar ar restr fer.

Roedd yn gryn sialens, ond nawr, 12 mis yn ddiweddarach, gallwn ddatgan ein bod wedi cwrdd â'r sialens a hynny'n deilwng iawn.

Pan gyrhaeddodd y Cork Express am hanner awr wedi naw, cafodd Bevan ei gymeradwyo wrth iddo ddatgan: '...' .

Galwn ar yr holl ymgeisyddion i'r Cynulliad ddatgan eu hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ymwneud â'r cyhoedd.

Bydd gobaith milynau wedi ei ddatgan mewn amryw o ieithoedd ar un diwrnod mawr o wrthdystio.

Gruffydd ddatgan yn Y Llenor fod oes yr awdl ar ben.

Penderfynodd nifer o unigolion sy'n pryderu am ddyfodol y Gymraeg ddatgan eu bwriad i sefydlu grwp newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Penderfynodd Ioan Bebb ddatgan ei farn ar ôl i Chris Stephens ei daro.

Hawdd felly oedd i Harold Macmillan ddatgan, 'Chawsoch chi erioed bethau'n well'.

Galwn hefyd ar i'r Cynulliad ddatgan ei hawl foesol fel corff llywodraethol democrataidd ein gwlad i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, a mynnu gweithredu arni yn hytrach na'i gadael yn San Steffan.

O ganlyniad, mae angen i arolygwyr ystyried yn ofalus y lle gorau yn yr adroddiad i ddatgan barn ynghylch agweddau ysgol- gyfan ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig.

O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.

Yn y sefyllfa ddiraddiol honno y bu'n rhaid iddo aros nes iddo ddatgan ei edifeirwch am ei drahauster.

Gwelsom nad yw'r Esgob Morgan yn brin o ddatgan ei ddyled i'w gynorthwywyr, ond nid yw'n rhestru John Davies yn eu plith.

Nid yw'r cyfryngau mor barod i ddatgan pryder y Glowyr hyn am ddyfodol eu cymdeithasau glofaol.

Anfonwyd am Vivian yn ddioed, a daeth yntau i *ny i'w gweld ac i ddatgan ei farn (beth bynnag oedd ei gwerth, gan mai ef, o'r holl ddynion, a wyddai leiaf ar fater o'r fath) .

Dwi'n aros yn eiddgar i weld pa un o'r beirniaid yna fydd y cyntaf i ddatgan ein bod wedi'n hynysu gan bobl sydd â'u buddiannau personol ynghlwm ym machau'r drefn bresennol.

Canmolwyd yr awdl yn ormodol gan J. J. Williams a J. T. Job, a hynny oherwydd eu bod yn ymwybodol o'r diffyg teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1927 a 1928, ac ar ôl i W. J. Gruffydd ddatgan yn Y Llenor fod oes yr awdl ar ben.

Mae angen ymroddiad ynglwm â disgyblaeth ac mi allai perfformiad ddatgan mwy am obeithion hir dymor Cymru na thriphwnt yn Kiev.

Wrth ddatgan ein bod yn dod i gyw am gyfnod i ddinas yr angylion sy'n llawn diafoliaid, cafodd Dafydd (y gūr) a finnau gynghorion oedd yn pwyso mwy o lawer na'r cesus!

Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.

Gobeithio erbyn diwedd y flwyddyn hon y gallwn ddatgan fod camau pendant wedi eu cymryd yn yr ymgyrch hon.

Dymuna'r teulu ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn ystod eu profedigaeth drist.