Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dde

dde

Ond, a hwy ar fin dringo'r llethr, gwelent lewyrch golau cerbyd yn llenwi'r awyr ar y dde iddynt.

Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.

Wedi i'r trên fynd am ychydig filltiroedd, yn sydyn, teimlais bwysau ar fy ysgwydd dde; roedd un o hogiau'r eroplens, yr un â'r cetyn, ar fy ysgwydd dde ac heb gymaint ag '...' wedi gwneud clustog ohoni.

I gael Cymru i arddel gwleidyddiaeth y Dde.

Ar ôl deall pwy ydoedd, bu Rolf Mengele yn llythyru â'i dad am flynyddoedd, cyn penderfynu mynd i Dde America i'w weld.

Mi adawn y llwybr yma a dringo'r llethr glos ar y dde i gyrraedd Llwybr Pyg a throi yn ôl tua'r dechrau, gan edrych i lawr ar y llynnoedd yn awr.

'Roeddwn i'n edrych ar fap ddoe cyn dod i lawr a mae jyst uwchben Iran a 'chydig i'r dde o Twrci.

Defnyddiwch y saeth dewis i lusgo ar draws y diagram i gyd (o'r top chwith i'r gwaelod dde) fe gewch linell fylchog grynedig o gwmpas y diagram, wrth ichwi adael i fotwm y llygoden godi bydd pob gwrthrych yn cael ei ddewis fel yn y diagram ar y dde isod.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Yn awr, roedd hi'n cynrychioli etholaeth yn y wlad i'r Gorllewin o Vilnius, yn aelod annibynnol, asgell dde gyda llun John Major ar ei wal.

Er enghraifft meddyliwch am ddau lawchwith ymlaen; wedi i un fod yn tyllu am sbel a'r llall yn troi'r ebill a rhoi dwr, maent yn penderfynu newid drosodd, wel gan fod y ddau yn llawchwith, mae'n rhaid newid lle ar y platform er mwyn i'r dyn sy'n taro fod yn ddethau, ond petai o'n medru iwsio'i law dde ni fuasai angen newid lle.

Fel arfer, pan gyrhaeddodd fan arbennig symudodd ei droed dde i wasgu'r brêc er mwyn arafu'r lori fawr.

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Gellir dileu llythrennau hefyd trwy osod y cyrchwr i'r dde o'r llythrennau a phwyso DELETE (neu BACKSPACE).

Deuai sŵn clebran a thincial llestri o ystafell ar y dde, a churodd ar y drws.

Gyrru i'r dde i lawr Cwm Elan heibio i'r pedair cronfa ddwr.

Rhyw hanner milltir y tu hwnt i derfyn y coed mae adfeilion dwy luest (hafod), y naill, Nantygorlan, ar yr ochr dde a'r llall, Aberceinciau, ar yr ochr chwith i'r afon.

Pan dry'r llwybr yn raddol i'r dde fe ddowch i olwg craig anferth ar ganol llwybr y rhewlif am Nant Gwynant.

Rwy'n digwydd credu fod yn rhaid i gomedi sefyllfa fod a sefyllfa waelodol hollol ddigrif cyn i'r sgrifenwyr ychwanegu'r jocs, ac roedd Fo a Fe yn ateb hynny gyda gwrthgyferbyniad o Dde a Gogledd yn union fel y mae Yes, Minister yn defnyddio sefyllfa oesol Don Quizote/ Sancho Paza neu Sherlock Homes/Watson i greu digrifwch cyn gorfod creu'r episodau unigol.

Hyderwn na ddêl y dydd pan y gwelir ein Cyfundeb yn fwy o fasnachwyr nag o drefnyddion!

Troi i'r dde fan hyn a phostiodd Siân ragor o gardiau drwy'r hollt i'r ffordd fawr o'i ôl.

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Daeth bachgen o dde India, o'r enw D.

Mae'n bosibl hefyd, a chofio y gall yr awdur fod yn fynach, fod awgrym ffurff o benyd cyhoeddus i'w ganfod yn y gorchymyn i adrodd yr hanes wrth bawb a ddêl i'r llys.

Mae'r symudiad yma yn esiampl pellach o ymgais llywodraeth asgell-dde y Partido Popular yn Sbaen i gynyddu tensiwn yng Ngwlad y Basg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Eritrea fod ymosodiad ar Zalambessa, tua 100 cilomedr i'r dde o brif-ddinas Eritrea, Asmara, wedi cael ei yrru'n ôl ddydd Mawrth.

Nid ydym yn derbyn dadleuon y Dde a leisir gan Dorïaid ac aelodau o'r Blaid Lafur na ddylid rhoi gofynion deddfwriaethol ar y sector preifat i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg.

Roedd traed Miss Aster yn camu'n drwm wrth fy ochr (roedd ei sgidiau bob amser yn pwyso braidd i'r ochr dde) a syllai yn ei blaen, mewn distawrwydd, fel peilot â'i holl feddwl ar lywio'i long.

Gwrandwch, a chofnodwch, - mae'n bur debyg y byddwch yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad llên gwerin ein cenedl, er budd yr oesoedd a ddêl!

Deuthum o dan fy maich dirgel o boen yn ara' deg dros foroedd anwadal i Dde'r Iwerydd, mewn bad anferth a oedd yn ysbyty gloyw, nes cyr'aeddyd cyrrau moel a gerwin yr ynysoedd amddifad .

Craith ar grib 'y moch dde a thrwyn cam 'da fi i ddangos hyd heddiw; i gofio...

Yn ail, roedd o'n dal Julie Angharad ar ei fraich dde.

Y Prawf - Fe lwyddodd newyddiadurwraig i gerdded i mewn i'r ysbyty heb i neb holi dim iddi; troi i'r dde ac yn syth i mewn i ward Llifon ac at y gwelyau a'r babanod.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

Yr awdur yw David Owens, newyddiadurwr o Dde Cymru syn brolio mai fe oedd y cyntaf yng Nghymru i gyfweld grwp bach fydd rhai ohonach chi'n gyfarwydd efo - y Manic Street Preachers, ac mae ei CV llwythog yn profi fod ganddor hygrededd ar wybodaeth i daclor testun newydd yma.

Ar yr ochr dde mae nifer o sachau, ac yn syth o'th flaen mae dau gwpwrdd anferth.

Mae Nick Walne o Gaerdydd yn di-sodli Matthew Robinson ar yr asgell dde.

Ar fy llaw dde, mae bwlch i bobl gerdded hyd-ddo, yna mae'r meinciau cysgu, er bod pobl yn eistedd hefyd ar y lefel isaf o feinciau.

'Dyw ei Gymraeg ddim cweit cystal â'i Sbaeneg, a hynny mae'n siŵr (yn hytrach, debyg gen i, nag unrhyw gysylltiadau â'r Wladfa) sy'n cyfri bod ganddo gyfrifoldeb dros Dde America.

Gwyrodd yn ofalus at ochr arall y ffenest a chraffu tua'r dde, ond wrth iddi wneud hynny dyrnwyd y drws yn ffyrnig unwaith eto.

(Pe bai rhywun yn cymryd y fforch dde byddai honno'n mynd heibio i adfeilion hen dollborth Tyrpeg Elan ac ymhellach draw Tyrpeg Neli nad oes carreg ohono ar ôl erbyn hyn.

Comiwnyddion Gogledd Korea yn ymosod ar Dde Korea.

Ni fu+m i yn crwydro rhyw lawer erioed ar y cribau yma - y rhai sydd ar yr ochr dde i'r afon.

Deall wedyn mai fy nghyfaill Bernard oedd yn gyrru a ddim yn arfer gyrru car gyda'r llyw ar yr ochr dde ac wedi mynd yn rhy agos i balmant a malu teiar.

Cyn Nadolig derbyniais wahoddiad oddi wrth un o'r cwmni%au trin gwallt rhyngwladol i fynd i Dde Affrig drostyn nhw.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Fel y disgwylid, Martin Johnson o Loegr fydd y capten. Ef, hefyd, oedd capten Y Llewod ar y daith i Dde Affrica ddwy flynedd yn ôl.

Tro ar y dde y tro yma, a ffordd gulach os rhywbeth.

Mae'n hawdd cael gafael arno mewn clybiau ieuenctid, ac yn y tafarnau a fynychir gan ieuenctid adain dde.

Mae batiwr Morgannwg, Jacques Kallis, wedi sgorio dwy fil a hanner o rediadau mewn gemau prawf i Dde Affrica.

Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.

Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.

Mae Kallis am ganolbwyntio ar y gemau cartre ac oddi cartre sydd gan Dde Affrica yn erbyn Awstralia.

Gwthiodd ei hun ymlaen ar ei ben-lin a'i benelin dde am ychydig, gan lusgo'i fraich a'i goes chwith yn boenus ar ei ôl.

Bu'r cwmni'n trafod âr Awdurdod Datblygu cyn penderfynu symud i dde Cymru a bydd yn derbyn grant oddi wrth y Cynulliad.

Mae Barry Williams - oedd yn aelod o garfan y Llewod aeth i Dde Affrica - yn gadael clwb Bryste ac yn ymuno â Chastell Nedd, ei hen glwb.

Gwelent ef yn codi ei fraich dde ac yn rhoi ei law ym mhen uchaf y gilfach tra y daliai'r dorts yn ei law chwith.

O'r terfysgwyr i gyd, 'doedd dim amheuaeth mai trigolion Tipperary oedd y ffyrnicaf ac alltudiwyd nifer fawr o Dde Iwerddon i gyfnodau hir o benyd wasanaeth.

Yn senedd Catalunya, Catalaneg mae pawb yn siarad, o'r asgell chwith i'r dde eithafol, a hon yw iaith gwleidyddiaeth y cenedlaeth­olwyr Catalanaidd a chenedlaeth­olwyr Sbaenig fel ei gilydd.

Symudodd y daeargi ymhellach draw oddi wrthynt, gan droi i'r chwith ac i'r dde bob yn ail.

Bwrw 'mlaen hyd oni ddêl corlannau defaid i'r golwg ar y chwith.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Ni ddaeth unrhyw fesurau eraill ar warthaf y gwasgu ar fudiadau adain dde, ac felly yn aml iawn ymffurffiodd y rheiny'n fudiadau newydd dan enwau eraill.

Mae Clwb Rygbi 13 St Helens yn mynnu bod yn rhaid i Anthony Sullivan a Keiron Cunningham fynychu diwrnod i gydnabod y cefnogwyr ddydd Sul nesa a hynny ar draul hedfan i Dde Affrica gyda charfan Cymru sy'n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Rheinos De Affrica.

Ymhen rhyw filltir a hanner o Abergwesyn cyrraedd unigedd Cwm Irfon; Craig Irfon i fyny ar y dde ac afon Irfon islaw ar y chwith.

Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

15 o gricedwyr a aeth ar daith i Dde Affrica yn cael eu gwahardd am dair blynedd.

"Bydd yn rhaid torri ei goes dde i ffwrdd uwchben y ben- lin," ebe un.

Hanfod ein gwaith ni yw cadw i'r oesoedd a ddêl, nid y cyfoeth a fu, ond y glendid a fu.

Bydd Shanklin, sy'n ganolwr fel arfer, ar yr asgell dde oherwydd bod Mark Jones wedi'i anafu.

Ond roedd ei goes dde yn sownd, fel asgwrn yng ngheg ci.

Dime arall am gosi'r goes dde.'

Dyma'r flwyddyn y gwelwyd swyddog o Dde Fietnam yn saethu dyn a amheuwyd o fod yn Vietcong yn ei ben.

Yn hytrach nag anelu'n union at y garnedd mae'n werth gwyro rhyw ychydig i'r dde er mwyn osgoi mawnogydd gwlybion Cors yr Hwch a Blaenrhiwnant.

Robert Howley, Scott Quinnell fel roeddwn i wedi disgwyl a Dafydd James, sydd wedi gwneud yn fawr o'i gyfle mâs yma ar yr asgell dde.

Ewch drwy'r drws yna ar y dde ac i lawr y coridor i'r pen draw.

Dan arweiniad y chwilod, trodd y ffrindiau i'r dde a martsio heibio i waelod muriau llwydwyn a thyrau o resi llorweddol coch a brown.

Mae hyn ychydig yn well na'r disgwyl ond ni ddewiswyd seren taith Y Llewod i Dde Affrica bedair blynedd yn ôl, Scott Gibbs, canolwr Cymru ag Abertawe.

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Safwn gyda'n gilydd yn y bwlch i gadw i'r oes a ddêl y glendid a fu.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Methais â chael lle ymhle yr oedd hi yn gweithio, ond yn y diwedd mi ges gynnig mynd i dde India.

Am gario'r meini, am godi'r waliau a phrynu'r tir; a'r tu allan i'r waliau, y tu allan i'r ffenestri uchel, pedair ar yr aswy a phedair, yr un ffunud ar y dde, canmolwyd gwaith llaw Thomas Jones yr Hendy a Gomer a gwelwyd bod pob dim yn dda.

Ar wahân i ddrwgeffeithiau newyn difrifol, mae'n dioddef o'r dica/ u, a rhaid iddo wisgo bandais mawr dros ei lygad dde oherwydd llid yr amrant.

Yn ôl adroddiadau o Dde Affrica ni fydd un o gricedwyr gorau'r byd, Jacques Kallis, yn ail-ymuno â Morgannwg y tymor nesaf.

Yr oedd yno le tan mewn cornel, ac ar yr ochr dde iddo yr oedd sofa.

Pwyswch RETURN, bydd hyn yn symud y testun sydd i'r dde o'r cyrchwr (Wali Tomos) i linell newydd.

Ar ôl un plwc sydyn arall, syrthiodd darn metel ei goes dde i ffwrdd a disgyn i waelod y cocpit.

I arbed troedio yr un llwybr yn ol ewch trwy'r bwlch yn y twyni rhyw ddau can llath wedi troi ar hyd y traeth, a gallwch gerdded trwy'r coed yn ol at y maes parcio, gan gofio troi i'r dde, neu fe ddeuech allan yn Niwbwrch!

Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.

Yna daeth Sarjiant, â_ rhuban coch ar ei fraich, allan o adeilad ar y dde.

Nodyn: Mae'r mast wedi'i leoli ar ffordd ogoi Felinheli, ar yr ochr dde wrth ddod o gyfeiriad Gaernarfon, heb fod yn bell o'r gylchfan.

Hon oedd un o'r teithiau awyr uniongyrchol cynta' i mewn i'r wlad; o'n cwmpas ar yr awyren, roedd ambell Lithuaniad cefnog a haid o bobl fusnes o'r Gorllewin yn barod i chwilio am ddêl.

Gyrru yn ôl i Abergwesyn a throi i'r dde am Lanwrtyd.

Ond gydag amddiffyn fel Popescu, Filipescu a Petrescu sydd hefyd yn ymosod i lawr yr asgell ar yr ochr dde mi fydd hi'n anodd iawn i Loegr dorrir amddiffyn i lawr.

Mae Eiryl yn edrych o gwmpas i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod ble'r ydych, yna mae'n dweud "Rydym yn sefyll ar ochr dde-orllewinol y goedwig sy'n amgylchynu Godre.

O baratoi'r 'Hansard', gyda'r cyfraniad yn yr iaith wreiddiol ar chwith y dudalen, a'r cyfieithiad i'r iaith arall ar y dde, fe fydd yr Hansard ei hun yn ddwyieithog ac fe fydd modd gweld pa iaith a ddefnyddiwyd gan y siaradwr.