Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddealltwriaeth

ddealltwriaeth

Ac yn raddol, fel y datblygai'r ddealltwriaeth hon, aeth yn agosach at y pwynt lle gallai droi'n ôl at ei brofiad cynnar, a'r bywyd clos, cyflawn, yr oedd yn ei weld erbyn hyn trwy lygad plentyn a llygad dyn.

Erbyn hyn, gwahanol yw'r ddealltwriaeth ynghylch nodweddion y teulu dedwydd.

ffordd y mae'r defnydd hwnnw'n gallu dyfnhau'r ddealltwriaeth bynciol c.

Ond mae carfan arall o blaid penodi pobl ar y ddealltwriaeth na ofynnir iddynt fyth ymddangos ar y sgrîn.

Blaenoriaeth arall i'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau datblygu Cwricwlwm Cymreig sy'n gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol gan roi lle arbennig i ddealltwriaeth gymunedol a fyddai'n cynnwys addysg wleidyddol, addysg amgylcheddol, addysg datblygiad byd ac astudiaethau heddwch.

Mae silia mor gyffredin trwy fyd yr anifeiliaid a'r planhigion nes bod astudio unrhyw organeb sy'n byw yn y mor, yn hwyr neu'n hwyrach, yn sicr o gynnwys rhyw fath ar ddealltwriaeth o'r organebau hyn.

Yn ddiweddar rydym yn dechrau sylweddoli mai dim ond gyda mwy o ddealltwriaeth o'n moroedd y gallwn ni obeithio darganfod llawn faint y difrod sydd wedi, ac sydd yn parhau i gael ei wneud.

Yn y gynhadledd cytunwyd ar ddau dealltwriaeth, un ohonynt ar Newid Hinsawdd sy'n ymdrech i reoli y difrod i'r atmosffêr, a'r ail yn Ddealltwriaeth ar Amrywiaeth Bywydegol (Biodiversity) - sy'n clymu llywodraethau'r Byd i amddiffyn ein rhywogaethau lu.

Cyfaddefant eu bod wedi ymgolli yn nhryblith ystyriaethau beunyddiol, bydol, yn llwyr, ac eto mynegant ddealltwriaeth o'r ffordd y mae'r elfen ysbrydol yn ein profiad yn ymdreiddio trwy bopeth.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Ni fedrant ddeall person sy'n ymgymryd â'r fath waith undonog o'i wirfodd a methiant yw ymdrechion tila Lenz i egluro, am nad yw ef ei hun yn argyhoeddiedig o effeithiolrwydd y dacteg hon i greu rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng y myfyrwyr a'r gweithwyr.

Cnays y mae eu priodas hwy wedi ei phrofi mewn tân poeth ac wedi ei churo yn ddidrugaredd ar eingion cyd-ddealltwriaeth.

* Wrth gwblhau'r cynllun hwn, a oes gennyf ddealltwriaeth a chefnogaeth y canlynol:

gofyn pobl y ffordd hyn bob dechrau haf hefyd, 'ydych chwi wedi dechrau tynnu tatws', yn union fel y gofynant, 'welsoch chwi wennol' neu 'glywsoch chwi'r gôg>' Sylwaf wrth feirniadu mewn sioeau cynnyrch garddio fod llai na chynt yn cystadlu yn y dosbarth i gasgliad o lysiau a chryn gam ddealltwriaeth hefyd am yr hyn ddisgwylir.

Heb ddealltwriaeth clir rhwng y ddau ni ellir trafod na pholisi rhaglen na chynllun marchnata a theithio.

Yn wir, yr hyn y byddwn yn rhoi pwys arno fyddai:-i) A oes gwir edifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd, ac a oes yna ddealltwriaeth o'r hyn aeth o'i le?

Mae'r mathau o dasgau a osodir i brofi ymhellach ddealltwriaeth disgyblion o gysyniad neu faes, neu gymhwyso'r hyn a ddysgwyd i sefyllfa arall debyg, o orfod yn golygu defnyddio iaith.

* sicrhau trwy bolisi ysgol gyfan fod datblygiad yn y mathau o dasgau a osodir sydd yn arwain pob math o blentyn, a hynny'n gynnar yn eu gyrfa uwchradd, i arfer y pum math o ddealltwriaeth a nodir.

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.

Bydd y rhelyw o rhain yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, ac felly, yn haeddu cydymdeimlad a ddealltwriaeth.

Yn aml y mae plentyn yn siarad mewn ffordd ddealladwy ymhell cyn iddo fod â rheolaeth lawn dros seiniau iaith ei gymuned a gall pob defnyddiwr iaith hyfedr saernio brawddegau er nad oes ganddo, o angenrheidrwydd, ddealltwriaeth lawn o "ramadeg" ffurfiol llunio brawddegau.

Ynghlwm wrth hyn mae'r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o'r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn hanfodol i'r ddealltwriaeth.