Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeallus

ddeallus

Dim ond trwy geisio amgyffred yn ddeallus a chyda chydymdeimlad y gallwn obeithio helpu y byd sy'n datblygu a cheisio datrys problemau a ddaw efallai i ran pob un ohonom.

Ond yr oedd yn rhoi cyfle iddo gadw ei feddwl yn fywiog, yn ogystal â thrafod gyda phobl ddeallus y pynciau yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddynt.

Maen nhw'n ofnadwy o gryf ac yn ddeallus iawn, fel chimpanzees ar y Ddaear, er faswn i ddim yn lecio cael te parti hefo nhw.

A chan mor ddeallus, gan mor fonheddig, gan mor sophisticated ydynt, mae'u hymddiddan yn ddethol, ac yn cuddio lawn cymaint ag a ddatguddio.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Pan nad oedd fawr ddim addysg Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, yr oedd yr Ysgol Sul yn dysgu miloedd i ddarllen yn ddeallus ac i fynegi eu syniadau a'u hargyhoeddiadau'n glir ac yn gryf.

oedd y ffordd y disgrifiodd arolygwr ffatri y plant yng ngogledd Lloegr yn siarad, ac fe geir arolygwyr Pwyllgor y Cyngor byth a hefyd yn cyfeirio at yr hyn nad oedd yn ddim ond brygawthan parablus i'w clustiau, pan oedd y plant mewn gwirionedd, mae'n siwr, yn adrodd barddoniaeth neu ddarllen rhyddiaith yn weddol ddeallus.

Ac ar ben y cwbl, gwnaethant gyfraniad at feithrin yng Nghymru draddodiad gloyw o ddarllen ac adrodd cyhoeddus a oedd yn ddeallus, yn gywir a phwysleisiol.

(a) ~le'r oedd cynulleidfaoedd y beirdd wrth eu swydd-- pa mor fychan bynnag oeddynt--yn llenyddol-ddeallus, yr oedd cynulleidfaoedd Pantycelyn a'i gyd-lenorion yn gyrnharol anwybodus a na%i%f yn llenyddol.

Yn ail, am iddo adeiladu ar y ddysg honno trwy ddarllen yn ddeallus y llwyth llyfrau ar fudiadau a sectau a phersonau canol yr ail ganrif ar bymtheg a gynhyrchwyd gan haneswyr Lloegr yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, corff gwych o waith.

Nid yw'r chwiw derwyddol yn amlwg yma, ond yn hytrach, ymchwilydd disgybledig sydd wrthi yn trafod ffynonellau'n ddeallus ac yn eu defnyddio'n fedrus feirniadol yn ddogfennau byw i ddarlunio hanes cymdeithas a'i thiroedd.