Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddechreuodd

ddechreuodd

Mae'r tîm i wynebu'r Barbariaid ddydd Sul yn debyg iawn i'r un ddechreuodd yn erbyn Cymru bythefnos yn ôl.

Yr oedd Ieuan Gwynedd yn byw yn Nhredegar pan ddechreuodd y tri Sais mawreddog ar eu gwaith o fwrw llinyn mesur dros Gymru a'i phobl.

Mae Gwlad Pwyl wedi enwi 8 o'r 11 a ddechreuodd y gêm yn erbyn Cymru ym mis Hydref ar gyfer y gêm nesaf rhwng y ddwy wlad yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar Fehefin 2.

'Mi ddechreuodd neidio gam yn rhy fuan.'

Gyda Bobby Wayne roedd wedi dechrau gwneud sgetsus ac, wrth fynd yn ôl i weithio ar ei phen ei hun, fe ddechreuodd ychwanegu comedi i'r act.

Fe ddechreuodd y chwaraen brydlon am saith o'r gloch ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Fe ddechreuodd drwy ddiolch i fi am helpu gyda'r holl drefniade, ond soniodd hi'r un gair am y 'wyllys.

Un o drafferthion mwyaf Zulema, fodd bynnag, yw ei huchelgais gwleidyddol ei hunan, a ddechreuodd y diwrnod yr etholwyd Menem yn Llywodraethwr La Rioja.

Pan ddechreuodd Vera John lanhau i Edward Morgan gyntaf, nid oedd yn hoffi'r syniad o weithio mewn tŷ lle'r oedd yna ddau gi.

Mae naw aelod o'r tîm ddechreuodd yn Murrayfield ddwy flynedd yn ôl yn dechrau eto yfory, ac y mae Allan Bateman ar y fainc.

Fel yng ngweddill Ewrop, roedd teimlad cenedlaethol wedi sgubo trwy'r wlad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd adfywiad llenyddol a chelfyddydol galedu yn symudiadau gwleidyddol.

Mi allai gredu damcaniaeth newydd Seiciatrydd o Rydychen, mai dynion a ddechreuodd siarad gyntaf yn y cyfnod cyn hanes.

Mi ddechreuodd y trafferthion wedi i'w rieni ei adael allan ar ei feic.

Bydd y rhaglen ar Fehefin 30 yn teithio i Lundain am y tro cyntaf yn hanes y gyfres, a ddechreuodd yn 1993.

Yr union haneswyr hyn, a drodd eu cefnau ar yr olwg Hen-Destamentyddol ar hanes, a ddechreuodd ymosod ar y chwedlau drwy ba rai yr oedd historiwyr gwahanol genhedloedd wedi cuddio'u hanwybodaeth am eu dechreuadau.

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Fel pawb fe ddechreuodd drwy fod yn fardd.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Fe ddechreuodd siarad â'i mam, a chafodd wybod eu bod yn dod o gymdogaeth ei wraig, ac yn wir ei bod wedi enwi'r ferch ar ôl ei Linda ef.

Wn i ddim pwy a ddechreuodd achwyn yn gyntaf am 'y beirdd modern hyn.' Efallai y gellir ei ddyddio i'r ymateb chwyrn i rai o gerddi cynnar Bobi Jones, dywedwch, yn niwedd y pumdegau a dechrau'r degawd nesaf.

Ni fethodd dim a ddechreuodd yno erioed!

Ar ôl gwneud sawl sioe deledu i hyrwyddo'i sengl, fe ddechreuodd wneud sioe cabaret, gan deithio o Newcastle i Cambridge ar gyfer ei dwy sioe gyntaf, ac o gwmpas gwledydd Prydain, Ewrop a'r byd.

"Yntau a ddechreuodd fod mewn eisieu." (Wel!

Ond yna fe ddechreuodd pobl droi at fathau eraill o danwydd, olew yn arbennig, a bu llai a llai o alw am lo, a bu'n ergyd farwol i'r diwydiant.

Mae pum newid yn nhîm Lloegr o'r pymtheg ddechreuodd eu gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn diwetha.

Roedd Alun yn meddwl am yr hen stori pan ddechreuodd Bob chwyrnu'n ffyrnig.

Pan ddechreuodd Eisteddfodau'r Clybiau bu aelodau Clwb Bryncir yn cystadlu'n frwd yno.

Fe ddechreuodd pethau'n addawol ym mis Ionawr, pan laniodd Buck Rogers gan Feeder yn rhif pump yn siart y senglau.

Pan ddechreuodd ei chanu dilynodd holl blant y dref ef a diflannu i mewn i fynydd.

Gorffennodd Tinning 15 ergyd yn well nar safon, un yn well na David Howell o Loegr a thair yn well nag Ian Woosnam, ddechreuodd y rownd olaf ar y blaen o un ergyd.

Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.

Wrth gerdded trwy'r tyrfaoedd ar y prom fe ddechreuodd Joni chwibanu.

"A chofia di, miss, yn Lloegr gest ti waith" Mor wahanol oedd eu hagwedd pan ddechreuodd Ger alw.

Gŵr â'i olygon ar yr ugeinfed ganrif (er nas gwelodd) oedd y gŵr a ailgyflawnodd ei fawredd inni, sef, wrth gwrs, Thomas Edward Ellis, a ddechreuodd ei olygu union ganrif yn ôl.

"Y gaeaf hwnnw fe ddechreuodd hi fflyrtan gyda'r cowmon newydd, bachan ifanc digon teidi o'r North 'na rywle bachgen cryf, yn eitha golygus, ac yn weithwr da.

Er hynny ni fu ymgais wyddonol i wella anifeiliaid hyd at y ddeunawfed ganrif pan ddechreuodd gwyr fel Robert Bakewell ddethol anifeiliaid ar sail mesuriadau ac amcanion arbennig.

Cafodd Mrs Mac ailgynnig ar hapusrwydd yn 1997 pan ddechreuodd gael affêr gyda Dyff.

Dechreuodd ef ddarllen llenyddiaeth Gymraeg yn llanc, ac wedi myned I Rydychen gwnaeth ffŵl o'r drefn afrywiog a ddechreuodd ei wneuthur yn fathemategwr, trwy ymroi i ddarllen Cymraeg a gwrando ar ddarlithiau John Rhys.

Aeth i lawr i'r traeth; ac yno fe ddechreuodd chwarae gyda merch fach ryw chwech oed o'r enw Linda.

Bythefnos yn ôl, fe ddechreuodd cwmni Miramax droi Castell Caerffili i fod yn rhan o Lundain yng nghyfnod y Brenin Siarl ll yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Ar ôl denu sylw fel cantores addawol, fe ddechreuodd ei band cynt' pan oedd hi'n ddeuddeg oed.

Wedyn fe gawn y rhai a ddechreuodd eu haddysg yng Nghymru a'i gwblhau mewn gwledydd eraill.

Noson i ddathlu hanner canrif o addysg gorfforol ddechreuodd fel Coleg Hyfforddi Dinas Caerdydd - clwstwr o hen gutiaur fyddin ar Barc y Waun.

Dros y blynyddoedd, fe ddechreuodd rhai - y rhan fwya' ohonyn nhw yn gyfranwyr i'r gyfrol hon - arbenigo a magu profiad mawr mewn gwaith o'r fath.

Yn 1997 yr ymddangosodd Haydn yng Nghwmderi gynta a daeth yn rhan o fywyd y pentre pan ddechreuodd fynd allan gyda Kath.

Fe ddechreuodd roi ordors i bawb a sbortian a siarad yn gwrs.

Felly, pan ddechreuodd papurau gwaith y Prosiect Ieithoedd Modern gylchredeg yng ngwledydd Prydain, nid syndod iddynt gael croeso gan grwpiau o athrawon.

Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.

Pan ddechreuodd Seasons roedd Twi yn dioddef yr oerfel ar glaw ar strydoedd Caerdydd; erbyn y diwedd cynigiwyd cartref parhaol iddo gan wrandäwr hael.