Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeddfau

ddeddfau

Mae llywodraethau yn gyson yn newid hen ddeddfau a phasio rhai newydd yn eu lle -- deddfau sydd yn fwy addas ar gyfer yr oes.

Roedd pobl y wlad wedi cael eu siomi o sylweddoli bod trethi'r Seneddwyr yr un mor drwm a rhai'r Brenin - ond yn waeth na hynny, roedd y Senedd wedi newid cymaint ar ddeddfau'r wlad, yn enwedig ynglyn a'r Eglwys.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor, i erlyn mewn achosion clir (yn eu barn hwy) dan y ddeddfau cynllunio heb gyflwyno'r achosion i'w hystyried gan y Pwyllgor ond ei fod i roi gwybod i'r aelod lleol am y sefyllfa cyn erlyn.

Er bod cyfran fechan o'r troseddwyr a alltudiwyd i Awstralia yn ddihirod arswydus, rhaid cyfaddef fod y mwyafrif ohonynt wedi eu cymell i droseddu gan gyflogau isel, gan ddeddfau gorthrymus, safonau byw gwael, diweithdra achlysurol a diffyg addysg.

Yn ystod y pymtheg mlynedd ddiwethaf, mae nifer o ddeddfau, gorchmynion ac adroddiadau swyddogol wedi llywio datblygu gwasanaethau addysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig.

Dyma'r weledigaeth Gristionogol cyn i'r meddwl seciwlar droi'r bydysawd yn "fyd natur" yn bod ac yn datblygu wrth ei ddeddfau mewnol ei hunan, a byd felly lle nad oedd angen Duw.

Y mae llawer yn dwyfoli eu rheswm eu hunain, neu ddeddfau economeg, neu arian.

Yn ystod cyfnod yr alltudiaeth, adferwyd nifer helaeth o ddeddfau llym y ddwy ganrif flaenorol, yn enwedig y rheini oedd yn ymwneud a lladrata - trosedd a fu'n gyfrifol am alltudio cyfran helaeth o'r carcharorion a gludwyd i Awstralia.

"Nid oes pwrpas chwilio am ddeddfau ond i'w newid", meddai.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.