Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeddfwriaeth

ddeddfwriaeth

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi ymdynghedu i ymladd y mesur seneddol hwn i'r eithaf, a bydd y gaeaf hwn yn adeg allweddol, pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol felly basio penderfyniad fod angen Deddf Iaith Newydd a pharatoi'r ffordd tuag at ddeddfwriaeth newydd; a hynny cyn diwedd ei dymor cyntaf. Beth alla i ei wneud?

O gofio mai ymdrin â mân ddeddfwriaeth fydd llawer o waith y Cynulliad, lle mae geiriau yn bwysig, mae cysondeb yn allweddol.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Ymhlith y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Stormont oedd gwaharddiad ar ddefnyddio Gwyddeleg wrth nodi enwau strydoedd.

Gwêl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y cysyniad o ‘wasanaeth' yn egwyddor sylfaenol ac angenrheidiol i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Er na fydd tribiwnlys Cymraeg na Chymreig, pan fydd tribiwnlys yn eistedd yng Nghymru ac yn delio ag achos Cymraeg, mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi iddo'r hawl i alw ar arbennigedd Cymraeg ac yn gosod dyletswydd arno i ystyried anghenion penodol plentyn o Gymro.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Yn y ddeddfwriaeth hon rhoddir grymoedd newydd i lywodraethwyr ysgolion a chyfundrefn o ddatganoli cyllid, sef Rheoli Ysgolion yn Lleol (RHYLL), sydd yn symud y penderfyniadau cyllido oddi wrth yr awdurdodau addysg lleol i ysgolion unigol.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Bydd pedwar cam i'r ymgyrch: (1) caiff pob perchennog o 48 awr hyd at 90 diwrnod i wella'r sefyllfa; (2) dirwyon o hyd at 2.5m peseta; (3) atafaelu eiddo os na wneir sylw o argymhellion yr arolygwyr; (4) estyn y ddeddfwriaeth i weddill y gymuned.

Yn achos yr amgylchedd nid yw'r ddeddfwriaeth yn cael ei chyfyngu i'r sector cyhoeddus yn unig.

Mae ef wedi dweud mai Aelodau Seneddol Lloegr yn unig ddylai bleidleisio ar ddeddfwriaeth Seisnig.

Nid yw chwaith yn unigryw i Gymru; dyma yw'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i ddeddfwriaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg a Chatalonia yn ogystal â Datganiad Byd Eang Hawliau Ieithyddol (Barcelona 1996) a gyflwynwyd i UNESCO.

Bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru wrth i ddeddfwriaeth newid, fel y bydd y busnes yn tyfu a/ neu yn newid o ran natur a phan geir damwain gwbl annisgwyl neu ddigwyddiad peryglus.

Fe ddaethon ni i'r penderfyniad mai'r Cynulliad yw ein targed ni: er mai yn San Steffan y byddai angen pasio'r ddeddfwriaeth, fe ddylai gael ei chyflwyno gan y Y Cynulliad.

Yn wir byddem yn eich anog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu fod y Ddeddf Addysg arfaethiedig i Gymru yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.

Mae'r ddeddfwriaeth yma'n datganoli grymoedd pellach i ysgolion a'u llywodraethwyr ac yn hwyluso ac annog ysgolion i ymeithrio oddi wrth y gyfundrefn addysg leol, gwelir eisoes effaith ar cydlynu a darparu gwasanaethau i blant ag anghenion arbennig.

Rhoddir pwyslais yn y ddeddfwriaeth yma ar ddatblygu gwasanaethau sydd yn gyson cydnabod y dylid darparu ar gyfer plant mewn angen:

Yn wir byddem yn eich annog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu Deddf Addysg i Gymru a fydd yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.