Un o nodweddion bywyd Cymru ym mlynyddoedd agoriadol y ganrif oedd y dyheu cyffredinol am ddeffroad ysbrydol.
Dyma'r datganiad: "Y mae heddiw ddeffroad ym mywyd Cymru ac awydd cryf am gyfle i hwnnw ei fynegi ei hun.
Bron nad yw dwy ran y disgrifiad yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd, ac yn wir fe deimlir bod hollt yn y nofel ei hun rhwng cyd-destun gwleidyddol y Rhyfel Degwm a'r droedigaeth ysbrydol arallfydol sy'n ddeffroad enaid i W^r Pen y Bryn.
Symptom o'r elfen dawelyddol mewn Anghydffurfiaeth Gymraeg oedd mai ar ddeffroad enaid y rhoddwyd y pwyslais gan weinidog o nofelydd, er iddo ddewis cyd-destun hanesyddol a awgrymai ddeffroadau eraill.