Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddefnyddid

ddefnyddid

Yr oedd honno tua chwe throedfedd o hyd, a phwysai tua dau gan pwys, a phan ddefnyddid yr allwedd fawr byddai wyth o wŷr y felin yn ei thrafod gyda'i gilydd.

Mewn cornel, ar yr un ochr i'r lle tan, yr oedd desc uchel o dderw, a lle i gadw llyfrau, a chaead ar y rhan ddefnyddid i sgwennu.

Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng y Gymdeithas a phlaid wleidyddol oedd y dulliau a ddefnyddid i sicrhau newid, sef lobïo a thorcyfraith yn hytrach nag ymladd etholiadau.

Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.

Tra wrth y gwaith o dyllu i wneud lle i'r camogau, y morthwyl pren, dwy aing - un fach ac un fawr - oedd yr unig offer a ddefnyddid, gyda'r riwl holl-bwysig, wrth gwrs.

Roedd yn berchen ar ddwy ferlen a ddefnyddid fel ceffylau gwaith ar y tyddyn.

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Byddai'r llestri a ddefnyddid i wneud menyn yn siwr o gynnwys rhywfaint o'r pren gan fod gwrachod yn enwog am eu gallu i rwystro corddi.

Y ffurfiau Lladin a ddefnyddid am Arthur yn ddiweddarach oedd Arturus, Arthurus, Arthurius, ac ymlaen.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Mae'n amlwg mai ceffyl a throl a ddefnyddid gan fod yr adwyon yn rhy gul o lawer i'n peiriannau modern.

Yr unig swn oedd cyfarth y cwn a ddefnyddid i ddod o hyd i ffrwydron.