Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.
Yn wir, y tu allan i'r cylch teuluol roedd iddi enw o fod yn ferch ddelfrydol, bob amser yn gwenu ac yn barod i sgwrsio â phawb; ond amheuai Mali fod ynddi fwy nag ychydig o elfen yr angel pen-ffordd.
Mae hi'n bwysig am ei bod yn ddogfen ddelfrydol o weithgareddau Waldo yn ei swydd o fardd gwlad.
Tra bwyf fe gofiaf wyneb gwelw HR a'r olwg freuddwydiol a fyddai yn ei lygaid fel pe bai'n gweld ymhell, gweld ei Gymru rydd ddelfrydol, tu hwnt i ffiniau ei oes ei hun.
Cynhyrchwyd CD-Rom Sam Tân i gyd-fynd ag anghenion Cwriciwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cael ei defnyddio yn yr ysgol yn ogystal ag yn y cartref.
Mae'n swnio'n ffordd ddelfrydol o wneud bywoliaeth.
Gorwedd y maes uwchlaw'r Wyddgrug ar y ffordd i Wernaffild, a maes hyfryd yw hefyd, eang a gwastad, ac yn ddelfrydol ar gyfer 'Steddfod Bro Delyn.
Llyfr fydd yn ffefryn efo Magi am flynyddoedd gan y bydd hi'n tyfu efo fo, a ffordd ddelfrydol o gyflwyno'r gwanwyn i blant bach, a'r syniad o fynd am bicnic.
Gwelir felly bod yr amgylchiadau uchod yn ddelfrydol ar gyfer sefydlu clybiau ardal.
Gyda chynnydd mewn poblogaeth, diwydiant, technoleg ac angen yn y Gogledd Orllewin; a chan fod rhwydwaith y nentydd a'r dyffrynnoedd pantiog bychan yn ddelfrydol i'w boddi...
Daliodd i'w olygu hyd ddiwedd ei oes, a daliodd i ysgrifennu ar gyfer y werin yr oedd ganddo ddarlun mor ddelfrydol ohoni yn ei galon.
ac oherwydd anawsterau daearyddol ac eraill ni fedrwyd cael gymaint o gyfarfodydd ac a fyddai'n ddelfrydol.
Mae'r Cestyll duon yma mewn sefyllfa ddelfrydol.
O leiaf, dyma fyddai'r sefyllfa ddelfrydol.
Roedd yn angenrheidiol, meddai, i'r milwyr gael lle i ymarfer tanio'u magnelau mawrion cyn mynd i ryfel, ac roedd blaenau cymoedd ac ucheldir Epynt yn ddelfrydol ar gyfer ymarferiadau o'r fath.
Yn ddelfrydol, wrth ymgymryd â'r broses o wneud cyllideb, dylem ystyried pob rhan o'r busnes.
Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.
'Dyw'r cyflesterau ddim yn ddelfrydol.