Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dderbyniodd

dderbyniodd

Seiliodd ei sylwadau ar wybodaeth a dderbyniodd naill ai ar lafar neu

Bydd y rhaglenni hefyd yn rhoi sylw i rai o'r ymdrechion codi arian gwirion a gwahanol sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru ac yn rhoi hanes yr unigolion a'r mudiadau a dderbyniodd arian gan Blant Mewn Angen y llynedd.

Ond er na dderbyniodd o mo'r ddeiseb i'w law, does dim dwywaith na chafodd o a'i bennaeth y neges yn gwbl glir.

Fe dderbyniodd dyn un rhan o'r etifeddiaeth ar amrantiad ei genhedlu oddi wrth ei rieni, ac fe ddaeth y rhan arall ohoni oddi wrth ei fagwraeth, yr hyfforddiant a'r amgylchedd o'i grud i'w fedd.

Newidiwyd ei gontract ac fe dderbyniodd gyflog rheolaidd.

Hwy a dderbyniodd sialens y Weinyddiaeth, y byddai'n rhaid i'r llyfrau hyn fod â'u hapêl yn gyfyngedig i sir Aberteifi.

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Lleiafrif ohonynt a dderbyniodd unrhyw fath o addysg ffurfiol, ac yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd agor y mwyafrif o academi%au'r ymneilltuwyr.

O'r tri siaradwr a wahoddwyd yno, ni fedrai Saunders Lewis fod yn bresennol, ni dderbyniodd Ben Bowen Thomas y gwahoddiad tan ar ôl y cyfarfod, ac felly dyna lle'r oedd DJ Williams, Abergwaun - yr unig siaradwr, ac er mor ddiymhongar ydoedd fe hoffai fedru brolio'n ddistaw mai ef fu'r siaradwr cyhoeddus cyntaf dros Blaid Cymru yn Ne a Gogledd Cymru.

Ond prin yr oeddwn wedi cael sicrwydd y medrwn astudio yma ac wedi dechrau hel fy mhethau at ei gilydd pan dderbyniodd y bonwr Schneider wahoddiad i dreulio cyfnod fel awdur gwadd - yn Abertawe.

felly dderbyniodd susan rawlings mo'r arian?

Hoffwn ar ran PDAG ddiolch i bawb a dderbyniodd ein gwahoddiad i ymuno yn y seminar ac a gyfrannodd ymhob ffordd at lwyddiant y diwrnod.

Yn ystod ei yrfa rhyngwladol £1 y gêm a dderbyniodd Meredith am chwarae dros Gymru.

Y rhain oedd yr Uned Defnyddwyr a'r Cynllun Gofalwyr a dderbyniodd gyllid hefyd trwy Ymddiriedolaeth y PRINCES ROYAL i Ofalwyr.

Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.

Adroddodd yr Ysgrifennydd mai'r unig ohebiaeth dderbyniodd oedd cyfraniadau.

Owain Glyndŵr oedd un o'r rhai dderbyniodd lythyr yn gofyn a fyddai ef yn cefnogi'r Pab newydd.

Dangoswyd cryn ddiddordeb mewn ffilm fideo, a gomisiynwyd gan PDAG ac a gynhyrchwyd gan Ganolfan Adnoddau Clwyd, yn olrhain hynt disgyblion, rhai o gartrefi di- Gymraeg, a dderbyniodd eu haddysg trwy'r Gymraeg.

Ganed y Dr John Davies yn y Rhondda, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Nhreorci, ym Mwlchllan, Tregaron, ac wedyn ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt.

Teimlaf serch hynny mai bod yn anniolchgar fyddai imi beidio â sôn am y bwyd a'n nerthodd i gerdded, rhagor na Syr John Hunt yn peidio â sôn am y boddhad a dderbyniodd goresgynwyr y grib dalfrig honno drwy fwyta eu hymborth.