Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dderbyniol

dderbyniol

Mae Mr Garel-Jones bellach yn Weinidog Gwladol yn nhîm Douglas Hurd yn y Swyddfa Dramor ac yn dderbyniol gan bawb.

"Allwch chi ddim dweud 'fuck ' yn Gymraeg, ond mae ' n dderbyniol yn Saesneg," meddai, gan roi'i fys ar un o'r elfennau mwya' rhyfeddol yn sgandal Cwmglo hefyd.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor petai'r ymwneud presennol yn y broses hon sydd gan athrawon a thiwtoriaid dosbarth o bob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael ei leihau.

Ffordd arall gwbl dderbyniol yw tyfu tomatos trwy ddefnyddio potiau meddal diwaelod gan blannu un planhigyn ym mhob potyn.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

Ond mae gen i rywfaint o synnwyr digrifwch, er nad ydi o mo'r un disgybledig- dderbyniol.

Daeth mudiadau fel Green Peace a Chyfeillion y Ddaear yn enwog, yn dderbyniol ac yn effeithiol.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried cais gan ysgol am gael ymadael â gofal awdurdod, yn medru caniata/ u i'r ysgol newid natur ei bolisi iaith yn sylweddol.

yn dderbyniol.

- patrymau enghreifftiol yn dderbyniol iawn;

Yr oedd yna rhyw barch ac anwyldeb yn y cyfarchiad oedd yn dderbyniol i'r ddwy ochr.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Pwnc go fawr, ond i'r pwrpas presennol gellir awgrymu nifer o resymau cyffredinol, rhai yn dderbyniol ac eraill yn fwy dadleuol.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor petai'r prosesau cadarnhaol hyn yn cael eu llesteirio.

POLISI PRYNU: Derbynia'r Grwp gyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyhoeddiadau ar fasnach ynglŷn â'r graddau y mae cynhyrchion a ddefnyddir ac a argym hellir eu defnydd gan eraill yn dderbyniol i'r amgylchedd.

Mae deddfau yn danfon negeseuon clir ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol o fewn cymdeithas.

Un golofn yn cynnwys ymadroddion yr oeddwn yn gwbl hapus a'r ffordd y cawsant eu trin; colofn arall o driniaeth dderbyniol ond y gellid fod wedi ychwanegu ati a thrydedd colofn gydag ymadroddion yr oeddwn yn anghydweld a'r driniaeth ohonynt.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.

Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.

Yr oedd adroddiad un paragraff ar gyfarfodydd pregethu, neu erthygl goffa fach am rywun yn yr ardal, neu bwt ar ryw bwnc diwinyddol yn gwbl dderbyniol.

A dyna ydan ni'n ei wneud, a dwi'n gweld fod tor-cyfraith dan unrhyw amgylchiadau ddim yn dderbyniol.

Mae cryn dadlau wedi bod o du rhieni a darparwyr y gwasanaethau, yn ogystal â chan y bobl ag anableddau eu hunain, ynghylch pa dermau fyddai'n dderbyniol a chawsom blethora o dermau: anhawsterau dysgu, o dan anfantais, ag anfanteision, arafwch datblygol, datblygiad gohiriedig.

Byddent hefyd yn gymorth i ymgyrraedd at amcanion parc cenedlaethol trwy ddefnyddio adeiladau lleol traddodiadol a allai ddirywio yn eu cyflwr, ac hefyd ddarparu arall gyfeirio fferm sydd yn amgylcheddol dderbyniol.

Cael eglurhad brysiog gan Paul, cynrychiolydd y Gronfa, fod eu gyrrwr nhw yn gefnogol i'r garfan sy'n rheoli hanner gogleddol y ddinas, a'r gyrrwr fyddai'n dderbyniol gan garfan y de yn hwyr yn cyrraedd y ffin i'n cyfarfod.

ar ran yr asiantaeth scya ) cyflwynwyd achos fod y tasau a'r profion yn asesu o leiaf hanner y datganiadau y gellid eu hasesu yn y modd hwn mewn amser rhesymol, a mynegodd y gweithgor fod hon yn egwyddor dderbyniol, o gofio mor gynhwysfawr y mae llawer o'r dogau.

Mae'r addasiadau Cymraeg yn dderbyniol er bod y gair etifeddu yn y frawddeg gyntaf yn Pws Esgid uchel wedi bod yn ychydig o rwystr wrth ddechrau'r stori.

Yn gyntaf y mae'r cwestiwn yn cale ei lunio fel ag i gael ateb sy'n dderbyniol i'r Llywodraeth.

Onid oedd yn dderbyniol ganddyn nhw, ni byddai'n rhaid iddo boeni mwy, ond os gwelai fod y Casino'n cael cefnogaeth gadarn, wel dyna'r amser iddo ef roi ei big i mewn.

(ii) Os na fyddai hyn yn dderbyniol yna fod pob cyngor dosbarth/bwrdeistref ar y pwyllgor yn cael tri cynrychiolydd er sicrhau mwyafrif i'r cynghorau hyn ar unrhyw bleidlais yn y pwyllgor.

fe ddywedodd y beirniaid na fyddai'r ddrama'n dderbyniol i unrhyw gynulleidfa yng Nghymru, yn enwedig o gael ei pherfformio yn Gymraeg.