Mewn cornel, ar yr un ochr i'r lle tan, yr oedd desc uchel o dderw, a lle i gadw llyfrau, a chaead ar y rhan ddefnyddid i sgwennu.
Wedi mynd heibio i lyn Trehesglog ar y chwith bydd y ffordd yn codi drwy allt dderw i'r mynydd.
Ganrifoedd wedi amser Hywel fe'i hystyrid yn drosedd i dorri coeden dderw a deuai dim ond anlwc i'r sawl a wnâi hynny.
Cododd ffigur o'r sedd dderw yn y cysgodion ger y ffenestr.
Yr oedd ganddi ddodrefn da, o dderw.
Ar y dde ymhen hanner milltir saif fferm y Dderw lle'r ymosododd Plant Mat, yr ysbeilwyr adnabyddus o Dregaron, ar ryw ffarnwr ar ei ffordd i'r Sesiwn Fawr, a'i ladd.