Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddestlus

ddestlus

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

Heriwyd un o'r bechgyn yn y meinciau i farchogaeth y ceffyl a oedd yn trotian yn ddestlus o gwmpas y cylch.

Y llefarwr llwythog, llawysgrifen fechan araf ddestlus oedd ganddo.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.

Yr oedd yn weithiwr tun bob modfedd ohono, gyda'i ddillad a'i lestri bwyd yn lân ac yn ddestlus bob amser.