Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddetholiad

ddetholiad

Dyma ddetholiad bychan o ddyfyniadau:

Roeddem yn falch o'r cyfle i ailddarlledu The Doctor's Story ar Home Ground ar BBC Dau, ac roedd rhaglen oedd yn ddetholiad o'r gyfres Ball in the Hall a ddangoswyd ar BBC Cymru ac a ailenwyd yn An Evening With Michael Ball yn cynnwys y gwestai Ronan Keating o Boyzone, Lesley Garrett a Martine McCutcheon.

Canlyniad yr ymweliad yw'r lluniau a welir ar y tudalennau nesaf, sy'n ddetholiad o gasgliad llawer mwy.

Esblygiad drwy ddetholiad naturiol, fel y canfu Darwin, sy'n gyfrifol am y datblygiad hwn, a cheisio trosi'r broses bwerus hon i fyd y cyfrifiadur yw canolbwynt yr algorithm genetig.

Fe'u danfonwyd gan PDAG at ddetholiad bychan o'r ysgolion a gynigwyd i PDAG gan ymgynghorwyr iaith yr wyth sir, gan ofyn i'r ysgolion eu dychwelyd (yn ddienw, os dewisent) at PDAG yn uniongyrchol.

Eithr os digwydd bod pennill dros ben mewn cân neu delyneg, neu ddetholiad o awdl, bod yn rheolaidd i'r datgeiniad a'r telynor gyd-ddeall i ddyblu, neu beidio dyblu un rhan o'r gainc fel y bo'n angenrheidiol.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.