Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeubeth

ddeubeth

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Mae a wnelo'r ddeubeth â'r iachawdwriaeth ac y maent yn gysylltiedig â gwaith Crist ac ag athrawiaeth yr iawn.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.