Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeud

ddeud

wnewch chi ddeud wrth Mr Rowlands y bydd yna siec yn y post cyn gynted ag y bydd Mrs Evans ein trysorydd ni wedi gwella o'r ffliw?'

Pan welwch chi o, newch chi ddeud wrtho mod i'n chwilio amdano?" Ond ni throdd y llanc ei ben.

'Fedra i ddim meddwl y gallai o ddeud dim i'n helpu ni i gael Lewis yn rhydd,' meddai Morris yn fyfyrgar.

ac mi o'n i'n crynu wrth ddeud - meddwl bod pawb yn sbio arna'i.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

'Doedd Tada ddim yn licio iddi ddeud 'siŵr Dduw'.

'Doedd gen i ddim syniad be i'w ddisgwyl, i ddeud y gwir, ond doedd hynny ddim problem wedi i mi benderfynu fy mod i isio mynd.

Gwrando,'ngwasi, paid ti a choelio popeth ma' nbw'n 'i ddeud.

"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.

"'Rwyt ti wedi'i ddeud o, Aled - yn y darlun.

Dim ond i chi lynu at ddeud y gwir fydd y croesholi ddim yn eich drysu chi.'

Os ceir Lewis yn euog mi fyddan nhw'n cau'r ffeil a fydd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn rhedeg ar ôl rhyw jacolantern.' 'Ond sut fedran nhw ddeud bod yr achos wedi'i gau a dau leidr â'u traed yn rhydd?

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

Cawn ni weld be sy gen ti i'w ddeud amdanat ti dy hun.

Dim ond Mam oedd yn cael ei ddeud.

Mi ddaeth Jim i lawr yma peth cynta bora 'ma i ddeud eu bod nhw am gychwyn, ac wedyn mi fwriodd Mama ati i 'neud brechdana' i ni fynd efo ni.

Ond mae'n debyg mai dull Wmffra ni o ddeud y stori oedd hanner yr hwyl.

'Rwy'n gwybod ei bod yn golygu llawer iddo fo Roedd o wedi gweithio'n galed arni, ac wedi cael gweledigaeth, os caf i ddeud hynny.

Mi fentra i ddeud wrthat ti na chaiff 'nacw 'r un gronyn o gysur yn y nefoedd os na fydd yno vacuum-cleaner a dystar at 'i llaw hi.

Fi sy 'di 'i ddofi fo - dyna mae o'n ddeud fod pobol yn 'i edliw iddo fo!

Wel, sdim byd sy'n bleser i gyd, dim un pleser y medri ddeud 'i fod o'n ddifrycheulyd" "Siarad drosot dy hun ngenath i " A thynnu'i law rydd dros ei gwar heibio'i blows ac at ei bronnau.

A be sy gen ti i ddeud wrth y rheini a thitha wedi treulio oes yn y byd academaidd ac yn y Gwasanaeth Sifil?

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

Amdana i, 'dydi fiw i mi ddeud mai fi bia f'enaid fy hun.

`Y peth wyf yn ddeud.

Rydw i'n gor-ddeud, rhaid cyfadda.

Dynas sy'n medru gwirioneddol ddeud fod y Milky Bars YNDDI

A ma'r llall ar - ' A diolchodd iddo sylweddoli beth yr oedd o'n ei ddeud, cyn iddo roi ei droed ynddi!

Aelod Blaenllaw o'r Blaid (yn obeithiol): Beth fuasech chi'n ddeud, Doctor, ydi diod genedlaethol Baconia?

Mae nhw'n ymarfer efo ni nos fory, wedyn mi ddônt am wythnos gyfa, ac mi fydd fel Cad Gamlan acw wedyn." "Mae'n debyg y dylswn i ddangos fy wynab, gan mai Gwyn ddaru'u gwadd 'nhw yn y lle cynta'." "Debyg iawn; ond nid ddylswn i ddylech chi ddeud ond mi liciwn i.

Doedd 'na ddim swydd ar gael a finna wedi priodi Saesnes heb ddim i ddeud wrth Gymru, a'r plant yn Saeson." "Dy fai di ydi hynny." "Ia, ia.

"A chofia di sgwennu i ddeud y byddi di wedi cyrraedd.

Wyddost ti, fedra i ddim hyd yn oed gâl y plesar o ddeud straeon am fy mhlentyndod wrth fy wyrion a'm hwyresau þ fasan nhw ddim yn medru amgyffrad..." "Wyt ti wedi rhoi cynnig arni?" "I ba bwrpas?

wrth feddwl be' f'asa' 'Nhad yng nghyfraith wedi'i ddeud, be' f'asa'JohnJones Tan 'Rallt wedi'i ddeud Owen Pritchard Sadlar, Simeon a Manuel Thomas, Gruffydd Wilias, Rolant Wilias, HughieJarvis .

"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.