Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeuddyn

ddeuddyn

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Ymddengys fod y berthynas rhwng y ddeuddyn yn cael ei chydnabod fel priodas ddilys gan y gymdeithas o'u cwmpas.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

Tra oedd y ddeuddyn yr un mor eiddgar a'i gilydd i begynnu'r sefyllfa, seilient y pegynnau hynny ar werthoedd anghymarus.

Craidd yr anghydfod boneddigaidd hwn oedd ymlyniad y ddeuddyn wrth wahanol syniadau am natur awdurdod.