Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeudodd

ddeudodd

Cydnabyddiaeth ddigon swta a gafodd hi y bore hwnnw, ond 'roedd hi'n rhy oer i ddal ato: 'Mi ddeudodd yn glir y bydda hi'n ffonio'.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

'Dad ddeudodd wrtha i am ofyn i rywun os oeddwn i isio.

Ddeudodd Gwyn yr un gair o'i ben ond rhythu'n sorllyd ar weddill llwm y brecwast.

.' Oedodd y capten a syllu i'r môr a'i dduwch: 'Dyna un o'r petha cynta ddeudodd o wrtha i pan fuo ni'n yfed rhyw noson .

Ti'n gwbod, mi glywais i hwn a hwn yn pregethu ar yr un testun, ond ti'n gwbod be ddeudodd o ...

A wyddost ti be' ddeudodd hi?' 'Na wn i.'