Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeunydd

ddeunydd

Ac ~n yr ymdrech, mae'r stori yn trosgynnu ei hun i dir myth; yn troi'n ddeunydd tebycach i'r chwedlau oesol mawr am y wledd yng Ngwales, Brân ar Ynys y Merched, Cyrch Arthur i Gaer Siddi neu Beredur i'r Castell Grisial.

Fel y dengys y Salmau, y mae byd natur yn achos rhyfeddod ac yn ddeunydd mawl.

Synnwn i ddim nad oes yna, i'r bardd iawn, destun cerdd mewn trons wedi ei wneud o ddeunydd a dyfwyd mewn tail naturiol.

Y nod oedd recordio digon o ddeunydd yn ystod taith ffilmio tair wythnos yn y Swdan i'n galluogi i ddangos hanner dwsin o raglenni i'w defnyddio yn rheolaidd mewn dosbarthiadau, a phob un yn dangos rhyw agwedd arbennig ar ddatblygu.

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

Oni bai fod copi%au ychwanegol yn a eu gwneud o'r holl ddeunydd cyn ei olygu, copi%au y gellir eu storio ar gyfer y dyfodol, yna ni fyd cyfleustra hwn ar gael.

Dewisodd droi yn ôl at y Gymru werinol, at gefn gwlad am ei ddeunydd.

Ni ddewisodd Kitchener drafod ei ddeunydd yn y dull naturiolaidd oherwydd ewyllysiodd afael yng nghymlethdod llawn y realiti sydd y tu hwnt i'r math o resymegu y mae'r dull naturiolaidd wedi'i seilio arno.

Unwaith eto, rydym ni wedi aros yn hir cyn cael mwy o ddeunydd gan grwp unigryw arall o'r ardal ond yn sicr yn werth yr aros.

Dilynir yr holl ddeunydd sydd wedi'i dargedu at athrawon gan adnoddau y gellir eu defnyddio gan ddisgyblion mewn ysgolion a dysgwyr eraill.

Hawdd gweld fod y cyfan yn ddeunydd chwedloniaeth - hawdd suddo i awyrgylch Krishna a mabinogi'r hen India.

Er enghraifft, wrth chwilio yn ddiweddar am ddeunydd ar Owain Glyndwr, roedd llawer o wybodaeth ar gael, ond roedd y cynnwys yn rhy academaidd a chymhleth i fod o ddefnydd ac o ddiddordeb i blant ygsol gynradd.

Peth hawdd yw siarad am yr angen am ddeunydd adnoddau o safon dda i ychwanegu at waith yr athro, ond sut y gellir cynhyrchu'r deunydd hwn?

gadewais gartref Mr a Mrs Parry dros deirawr yn ddiweddarach, efo digon o ddeunydd ar gyfer llyfr!

Archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R.S. Thomas, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, erthyglau a llyfrau beirniadol, cyfweliadau a deunydd clywedol.

Y mae rhagor o ddeunydd darllen yn dilyn.

O ganlyniad i haelioni pobl Cymru, dosbarthwyd papur, pensiliau a llyfrau i naw ysgol oedd wedi eu hamddifadu bron yn llwyr o ddeunydd addysgol.

Mae'r adroddia o'r farn "bod amrywiaeth teg o ddeunydd darllen ail iaith addas ar gael erbyn hyn".

* ysgrifennu adroddiad am y lleoliad gan gynnwys unrhyw ffotograffau neu ddeunydd arall.

(Mewn gwirionedd, llai nag un rhan o ddeg o ddeunydd printiedig sydd ar gael mewn braille.) * Fe all teledu a radio fod y tu hwnt i gyrraedd pobl sydd a nam ar eu clyw.

Un arall o'r beirdd ifanc newydd oedd Caradog Prichard, aelod o'r genhedlaeth o feirdd a gredai fod popeth yn ddeunydd barddoniaeth.

Mae'n siŵr gen i fod yna ddeunydd ymchwil i rywun yn y fan yna.

Dyma'r cam cyntaf i wneud Cymru'n rhydd o ddeunydd GM, meddai Cyfeillion y Ddaear.

Mae'r RSPB wedi cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd rhagorol ar y pwnc hwn mewn cyswllt â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae cyfran ohono wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Wel, cawn weld, ond tra fyddwch chi'n disgwyl am ddeunydd newydd, beth am brynur llyfr yma?

Gan amlaf, mae'r de nyddiau cemegol yn cael eu gwerthu yn ôl yr enw a roddir arnynt gan y cwmni%oedd masnachol, felly gwell i chwi egluro beth yn union sydd yn eich meddwl cyn prynu unrhyw ddeunydd cemegol ag iddo enw masnachol.

Defnyddiwyd y grant i addasu deunyddiau Saesneg (neu iaith arall) i'r Gymraeg, i gynhyrchu teitlau Cymraeg gwreiddiol ac i gynhyrchu fersiynau Saesneg o ddeunydd gwreiddiol.

Hefyd, gellir rhoi mwls, sef haen denau o ddeunydd organig o amgylch eu bonion Tail pydredig fyddai orau ond, os nad yw ar gael, gellir defnyddio compost.

Yn hytrach na chrisial, defnyddir fel rheol ddeunydd ar ffurf gwydr yn sail i'r laser ffibr.

Y werin yw ei brif ddeunydd: hi hefyd a rydd iddo ei werthoedd.

At y ffynonellau hyn yr arferai'r llenorion Cymraeg droi yn rheolaidd i chwilio am ddeunydd stori%ol i ehangu a chyfoethogi eu testunau Arthuraidd.

'Rydym yn dewis erthyglau a straeon a fydd yn cyfleu yr amrywiaeth liwgar a blasus o ddeunydd sydd yn y papur bob wythnos.

Cawn ddeunydd sylweddol ynghylch castiau Robin a'i ymdrechion i ddifwyno cymeriad Margaret.

Mae modd cribinio ynghyd ddigon o ddeunydd i gyfiawnhau gwneud awgrym gogleisiol, ond dyna'r cwbl.

Meddai ar wybodaeth eang ac ni fyddai byth yn amddifad o ddeunydd i lenwi ambell dudalen wag neu, os byddai angen, ambell rifyn cyfan.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

Faint a fynnir o ddeunydd am Loegr ac Ewrop þ Harri Tudur yn glanio yn Aberdaugleddau a'r Cymry druan yn llawenhau o feddwl fod Tywysog o Gymro yn mynd i'w lordio hi tua Llundain yna ac yn mynd i ddod â'r mil blynyddoedd i ben.

Bu raid, felly, casglu'r holl daflenni, ffurflenni ac unrhyw ddeunydd arall nad oedd ar gael yn Gymraeg o'u swyddfeydd.

Dilynir yr holl ddeunydd sydd wedii dargedu at athrawon gan adnoddau y gellir eu defnyddio gan ddisgyblion mewn ysgolion a dysgwyr eraill.

Ond mater arall yw mentro i Dyffryn Ogwen ym mis Tachwedd bryd hynny, rydych angen gwres canolog effeithiol a thrwch o ddeunydd insiwleiddio o'ch cwmpas rhwng y gragen fewnol a'r gragen allanol.

Nid oedd rhaid i'r elfennau a feistrolid fod o ddeunydd cyfathrebol, gan nad hynny, yn ôl y safbwynt, oedd y nod.

Yn ddiamheuol y mae prinder o ddeunydd newydd safonol yn y Gymraeg.

Byddai'r rhain yn gwahaniaethu o fro i fro neu'n newid o dymor i dymor, ac yn peri hwyl neu siom, ac felly yn mynd yn ddeunydd cof ac ymddiddan.

Wrth ddarllen Ystorya Trystan yr argraff a gawn yw fod yma ddeunydd brodorol, wedi ei gyflwyno mewn mewn cywair ac arddull hollol Gymreig.

Yn achos Ysgolion Uwchradd (Y Llyffant) yr oedd pawb wedi gweld y deunydd, medden nhw, ond yr oedd cryn ddryswch yngln â pha ddeunydd yn union oedd dan sylw; cafwyd un yn holi Buom yn trafod "Pobol Y Cwm"...

Dilema'r diwylliant lleiafrifol yw ei fod mewn cymaint o beryg cael ei ddifodi, fel bod raid i'w gynheiliaid gyfaddawdu rhywfaint trwy greu sylfaen o ddeunydd cydymffurfiol 'er mwyn cadw'r iaith yn fyw' cyn y gall fforddio lleiafswm o ddeunydd cwestiyngar anghydffurfiol sy'n mynd i wneud yr iaith yn werht byw trwyddi.

Mae ein tîm o newyddiadurwyr yng Nghaerdydd a Bangor yn tynnu ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei ddarlledu ar deledu a radio gan Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru.

Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.