Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddewrder

ddewrder

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Er mai gelyn iddo oedd Douglas Bader, yr oedd wedi edmygu ei ddewrder ers blynyddoedd.

gwyliodd y tri ef yn cropian ar ei fol ar hyd y gangen, a rhaid oedd edmygu ei ddewrder.

Efallai mai oherwydd ei ddewrder mewn brwydr yr enillodd iddo'i hun yr enw Owain Lawgoch.

Darlledwyd fersiwn Cymraeg o'r hanes hwn o ddewrder, cariad ac anrhydedd ar S4C ddeuddydd yn ddiweddarach.

Oedd Bilo wedi gorchymyn iddo ei wylio a cheisio penderfynu oedd yna ddigon o ddewrder a chaledwch ac ysbryd antur ynddo i ymuno â'r criw?

Edmygwyd ei ddewrder a'i egwyddorion, ond wedi pum mlynedd o bregethu ac ymdrechu i fugeilio'i braidd, penderfynodd y byddai'n well symud.

Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.