Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiamheuol

ddiamheuol

Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".

Yuppiaidd awdurdodol, perthyn yn ddiamheuol i Oes Thatcheriaeth.

Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.

O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.

Yn ddiamheuol y mae prinder o ddeunydd newydd safonol yn y Gymraeg.

Fe fyddai ennill statws swyddogol i'r Gymraeg yn arbed y dryswch presennol: fe fyddai'n neges ddiamheuol i bobl yng Nghymru fod gwerth ar yr iaith a bod modd ei defnyddio heb rwystr.