Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym.
Ni chawn fawr o son amdano'n anwesu Sarah, dim ond cyfeirio'n ddidaro ati'n 'ymnythu yng nghorff ei phriod yn y gwely mawr'.
Codwn f'ysgwyddau'n ymdrechgar ddidaro.
Ceisiais ymddangos yn ddidaro.
Sioc ffrind yn digwydd sôn yn ddidaro - 'O, wyddat ti ddim?
Aeth yn ei flaen yn ddidaro nes dod at garn fach o gerrig llwydion ac yna oedodd yn wyliadwrus a llygadrythu ar rywun a eisteddai fel delw yno.
Trotiodd Barnabas a Ned drwy'r cyfan yn ddidaro, a buan iawn roedd gūr a gwraig Brynmawr yr ochr draw i'r bont fawr ar eu ffordd i'r Hengwrt.
'Tydi hynny'n ddim byd, nacdi,' meddai'n ddidaro.