Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiddorol

ddiddorol

Mi fydd yn ddiddorol cael eu hymateb nhw.

Mae'n ddiddorol nodi i Gymdeithas yr Iaith ennill ei phrif frwydrau, ag eithrio'r ymgyrch arwyddion ffyrdd, ymhell ar ôl i'r tyrfaoedd ddiflannu. Dafydd Morgan Lewis yn ein harwain yn ôl ar y stryd

Bydd yn gêm ddiddorol, ychydig yn anos na'r gynta ond gêm ddylai'r Llewod ennill.

Felly, mae yna frwydr ddiddorol iawn yn ein haros.

Cyn hir dechreuodd ysgrifennu'r llyfrau hynny a ddaeth yn rhan mor ddiddorol a phwysig o ryddiaith lenyddol Gymraeg, llyfrau gŵr dysgedig o lenor yn ysgrifennu ar gyfer y genedl fach y cododd ef ohoni.

Gallaf awgrymu ffordd newydd ddiddorol a chyffrous i Blairs a Wigleys y byd yma ennill etholiadau.

Oherwydd yr amrywiaeth sydd yn y gwaith bydd yn ddiddorol gweld i ba gyfeiriad y bydd arddangosfa nesaf Maredudd wedi datblygu.

Yr hyn syn ddiddorol yw sut y mae'r Just Gay Enoughs wedi esgor ar fathau eraill o ddynion - fel yr NQGEs (Not Quite Gay Enogh) syn gyrru o gwmpas mewn picyps.

Hwn yn ddiddorol iawn mewn swyddfa fechan ddiymhongar a'i bennaeth, Mr JB Singh, yn siaradwr huawdl ac yn feddyliwr gwreiddiol.

Mae enwaur sêr yma yn medru bod yn ddiddorol.

Yn ystod y beirniadu yn Yr Aelwyd, cafwyd amser hynod o ddiddorol yn gwrando ar Joyce Jones yn son am wneud sampleri ac yn arddangos ei gwaith.

Mae'n ddiddorol, a dweud y lleiaf, cael cwmni un sydd a barn bendant a diwyro am garcharau a charcharu.

Gydag ysgyfarnogod fel gyda phob anifail gwyllt arall 'trechaf treisied, gwannaf gwaedded' yw eu hanes ac mae'n ddiddorol sylwi mor bwysig yw deddf etifeddeg yn eu bywydau.-Trosglwyddir i'r genhedlaeth newydd ymddygiadau ac arferion eu cyndadau.

Wedi hyn i gyd cafwyd sgwrs ddiddorol ar "Swyn Gwsg" gan Gareth Wyn Davies.

Mae'r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.

Mae'r amgylchiadau a arweiniodd at sgrifennu 'Cofio' yn ddiddorol.

Er mor ddiddorol ac atyniadol yw rhai o'r ffresgoau a'r ffenestri hyn, y gellir eu gweld o hyd mewn ambell eglwys yng Nghymru a gwledydd eraill, ni ellid honni ar unrhyw gyfrif eu bod yn ddigonol i gymryd lle darllen y Beibl a myfyrio arno.

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

Yn olaf, fel y gwelwn yn nes ymlaen, mae'n ddiddorol sylwi bod Cadog yn newid ei enw tua diwedd ei fywyd a'r enw newydd yw Sophias, sef pwyll.

Er hynny mae'n ddiddorol tros ben gweld sut y mae ysgolhaig a dreuliodd oes lafurus yn y maes yn gweld y darlun.

Mae manylion magwraeth Christmas, fel y mae Dr Morgan yn eu portreadu, yn ddiddorol.

Yr oedd yr achosion yn y llys yn ddiddorol a phwysig.

Yno cawsai weld mewn llawysgrif destun crefyddol hynod ddiddorol a elwid 'Y Beibl yn Gymraeg'.

'a byddai pregethau lu ar ei gof yn cael eu gweu yn sgwrs ddiddorol, tra byddai nhad yn porthi yma ac acw fel bo cyfle, a chario ymlaen â'r gwaith yr un pryd.

Mae'n ddiddorol, er hynny, fod Stalin, hyd yn oed, yng nghanol berw'r Chwyldro Comiwnyddol wedi gorfod rhoi ystyriaeth i athroniaeth cenedlaetholdeb.

Fel rheol, penyd preifat a arferid yn yr eglwysi Celataidd, ond gan ei bod yn bosibl i'n hawdur gael ei ddylanwadu arno gan arferion Lloegr, mae'n ddiddorol sywli ar yr hyn a ddywed T P Oakley.

Rwyf wedi dechrau cael blas ar rai o'r rhaglenni i ysgolion ac mae rhai ohonynt yn ddiddorol dros ben.

Yn ddiweddar rhoes ddisgrifiad byw o'i weithgarwch mewn dwy gyfrol arbennig o ddiddorol, sef Holy Ghostbuster.

Ychydig a feddyliwn i bryd hynny fod y Garreg Galch Garbonifferaidd sy'n brigo o gwmpas y Mwmbwls mor hynod o ddiddorol ag y deuthum i sylweddoli'n hwyrach, yng nghwmni fy athrawon daearegol o Brifysgol Abertawe.

Crwydrais dwyni Aberffraw ar bob adeg o'r flwyddyn a'u cael yn ddiddorol, yn enwedig ym mis Mehefin pan yw'r planhigion ar eu gorau.

Pwysleisia Angharad Dafis yn ddiddorol iawn mai: Diben creu Wil James yw dangos na ellir chwalu'r hen drefn a chreu trefn newydd sosialaidd o fewn i'r werin ei hun.

Noson ddiddorol yn annisgwyl.

Mae hen ganolfan seryddol ganol-oesol ddiddorol iawn wedi ei harbed yng nghanol y ddinas, a'r adfeilion wedi eu cofnodi'n fanwl a pharc digon teidi o'u cwmpas.

Erbyn heddiw y mae rhai o'i ddadleuon yn taro braidd yn chwithig ond y maent yn ddiddorol er hynny.

Ymhlith y siaradwyr diddorol (gan gynnwys John Jones, Rhaeadr Gwy, a gyrhaeddodd ei gant oed) y bu+m yn sgwrsio â nhw, yr oedd un â chanddo stori ddiddorol am ei brofiadau fel labrwr yn helpu i adeiladu'r argaeau dwr.

'Bydd yn ddiddorol gwylio'r brwydrau personol.

Yr hyn sy'n ddiddorol yma yw fod Kate Roberts wedi newid rhyw yr hynafiad a ddaeth yn blentyn o Lyn.

Mae honno'n sect ddiddorol ac mae'r glasiad y dydd yn gneud lles mawr iddyn nhw, medda eu gwyr.

Doedd gwaith yn yr ysgol fel athro ddim mor ddiddorol a lliwgar i ysgrifennu amdano rhywsut." "Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol.

Cyflwynir yn y cofiant hefyd ddarlun eithriadol ddiddorol o fywyd Dei Ellis yn y Coleg ym Mangor, a darlun, yr un mor werthfawr, o natur yr addysg a geid yno bryd hynny, ac yn arbennig yn Adran Y Gymraeg.

Dangosodd Mr Steffan Griffith mewn pennod ddiddorol o'i eiddo'n ddiweddar fod gan deulu Waldo Williams, o ochr ei dad gysylltiadau agos â'r ardaloedd rhwng Taf a Chleddau.' Ceisiaf innau ddangos yn yr ychydig nodiadau hyn fod gan y bardd gysylltiadau teuluol â'r Wythi%en Fawr ym Mrynaman yn ogystal.

Perthyn dwy agwedd ddiddorol i'r penodiadau hyn.

Ty reit ddiddorol.

'Adroddiad gan y lab ar fy siaced wrth-fwled yn ddiddorol.' Pwysodd Andrews ei benelin iach ar ei ddesg a'i ben ar ei law.

Ysgrifennodd lawer o gofion a thraddodiadau y wlad, y rhai fydd ddiddorol ac o wasanaeth mawr i ryw hanesydd.

Ond y maen ddiddorol mai i'r America yr aeth Anthony Hopkins.

Pob un eisiau gwybod sut i wneud gwers anniddorol yn ddiddorol.

Y mae'n rhaid fod ei haddysgiaeth yn ddiddorol achos yr oeddwn i'n aml yn clustfeinio ar beth oedd Anri yn ddweud wrth ei disbarth, yn lle gwrando ar fy athrawes i.

Yr oedd ganddo ddawn arbennig i sgrifennu'n ddiddorol am bobl a phethau o gylch Ffestinioig.

Cefndir hanesyddol y ddarlith sy'n ddiddorol i mi.

Yn ogystal a hynny, roedd Syr Thomas yn gwmniwr gyda'r mwynaf ei galon a'r gwreiddiolaf ei hiwmor.Fel Tom Parry yr adweinid ef ym Mangor mewn cyfnod cynharach, ag ef oedd ffefryn ddarlithydd y dosbarth Cymraeg.Roedd ganddo bresenoldeb a phersonoliaeth oedd yn llwyr arbennig, heb son am ddawn i draethu'n feistraidd a chyson ddiddorol.

Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.

Gan edrych o'i gwmpas gwelodd her ddiddorol.

Ambell waith bydd Ffeil yn rhoi gwybod iddyn nhw am stori ddiddorol yng Nghymru ac yn anfon lluniau a chyfweliadau atyn nhw ar y lloeren.

"Oedd lot yn digwydd gyda'r grwpiau mawr yn Llundain, oedd hwnna'n ddiddorol.

Mae'n ddiddorol cofio mai wrth fynd i mofyn y gwartheg i'w godro gyda'r nos y daeth 'Mewn Dau Gae' i fodolaeth hefyd.

Yn sicr mae'n ddiddorol, os nad yn arbrofol tu hwnt, ond nid yw'n gweddu gweddill yr albym yn ei chyfanrwydd.

Y mae ei gynnwys yn elfennol ond yn ddiddorol.

Ac y maent - i'r neb y mae ganddo ddiddordeb yn hanes dynion a gwragedd - yn ddiddorol ynddynt eu hunain.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi agor unwaith eto ar ôl y cyfnod byr o seibiant dros fisoedd y Gaeaf, ac mae'r paratoadau a'r rhaglen arfaethedig yn swnio yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

Mae'r ddwy gyfrol sy'n eiddo storiwyr a ddaeth i'r maes yn fwy diweddar, ar y llaw arall, yn arbennig o ddiddorol am eu bod yn ymddangos i mi fel pe bae'n nhw'n chwilio am foddion newydd i ddweud eu dweud am y byd newydd.

Straeon yw'r rhain sydd yn cael eu dweud, eu hail-ddweud, a'u credu yn ein cymdeithasau modern ledled y byd, ond mae'n ddiddorol nodi mai cefndir Americanaidd sydd i nifer ohonynt - cawn drafod paham yn nes ymlaen.

Byd rhaglen ddiddorol wedi cael ei pharatoi.

Ond y cyfuniad yma o ymddygiad hyderus a bregus syn gwneud stori Catatonian ddiddorol ac yn werth ei darllen.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

(Gweler erthygl Jane Cartwright yn y rhifyn hwn.) Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol fod y bardd yn cyfarch Mair, fel petai'n ymuniaethu â hi yn ei galar am ei mab cyn agor Ei fedd yntau.

Y mae eisoes yn son am Ewropeaeth, ond yr hyn a olyga ydyw safonau y gwledydd Lladin, Ffrainc yn arbennig, ac y mae'n ddiddorol sylwi nad oes gan yr Almaen nac Awstria na'r Iseldiroedd na Sgandinafia ddim lle ym mhatrwm y safonau "Ewropeaidd" hyn.'

Bu'r ddau yn adrodd a chyd-adrodd barddoniaeth a darnau o ddramau yn hynod o ddiddorol.

Mae'n ddiddorol fod nifer o'r beirdd Cymraeg a farwnadodd eu plant eu hunain yn dweud eu bod yn methu canu bellach, fel petaent yn uniaethu'r plant â'u hawen (ac eto mae'u cerddi'n gwrthddweud eu honiadau!).

Be sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw mwya i gyd mae o'n sgorio, mwya i gyd o bobol sy'n mynd i ofyn pam nad ydy o yn chwarae i Gymru.

Gan ddefnyddio llyfrgell helaeth o ddeunyddiau archif, rhoddodd y gyfres olwg ddiddorol ar fywydau Pushkin, Tolstoy, Chekhov a Gorky.

Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.

Chastell Nedd fydd yn herio Casnewydd ac fe fydd hi'n frwydr ddiddorol, yn arbennig rhwng y ddau hyfforddwr.

Ond y mae'n ddiddorol nad oedd y golygydd, Daniel Silvan Evans, Person Llanymawddwy, yn hapus fod y fath sylw wedi ei roi iddo.

Crisialwyd eu hegwyddorion cul gan eiriau Norman Tebbitt ychydig ddyddiau yn ôl: "People are not willing to be governed by those who do not speak their language." Dyna i chi ddiddorol!

Maen bryd i rywun yng Nghymru godi ychydig o stwr ac awgrymun garedig i'r Archifau Cenedlaethol ym Mharis mai rheitiach peth i'r ddogfen ddiddorol a hanesyddol hon gael aros yng Nghymru ai diogelun barchus - nid ei chadw mewn amlen frown.

Syr T. H. Parry Williams a ddywedodd mair bobol wirioneddol ddiddorol yw'r rhai hynny syn siarad cyn meddwl.

Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel swyddog carchar.

Ffenomen ddiddorol a phwysig arall ym maes cyhoeddi yng Nghymru yw'r papurau bro.

Mae'n ddiddorol edrych ar rai ohonynt.

Mae'r ysgrifennu'n ddiddorol a rhywiog.

Bydd gêm Yr Iseldiroedd ar Eidal heno yn ddiddorol iawn.

Mae'n ddiddorol mai Rhiannon Evans oedd yn gyfrifol am y tlws gan i'w thad, y diweddar Athro Jac L.

Gofyn pob math o gwestiynau imi - sut i ddelio â phlant sy'n cambyhafio, sut i wneud gwersi gramadeg yn ddiddorol, sut i dynnu lluniau diddorol ar y bwrdd du...

Mae ganddynt rai daliadau od o ddiddorol.

Wrth inni gyfarfod rhai o reffaris Cymru roedd yn ddiddorol ceisio penderfynu i pa garfan oedden nhw'n perthyn.

Nid oedd yn rhaniad mor glir â hynny chwaith, ni allai fod; ond y mae'n ddeuoliaeth ddiddorol.