Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiflannu

ddiflannu

Mae'n ddiddorol nodi i Gymdeithas yr Iaith ennill ei phrif frwydrau, ag eithrio'r ymgyrch arwyddion ffyrdd, ymhell ar ôl i'r tyrfaoedd ddiflannu. Dafydd Morgan Lewis yn ein harwain yn ôl ar y stryd

Rwy'n chwilio am ôl y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.

Mae carped sy'n adrodd darnau o'r stori ar lawr swyddfa'r cofrestrydd ac ni chaniateir i unrhyw un ganu unrhyw fath o gerddoriaeth yn y Bungelosenstrasse oherwydd ar hyd y stryd hon, yn ôl y chwedl, yr arweiniodd y Pibydd y plant cyn iddyn nhw ddiflannu.

Gwna i Bob ddiflannu'n sydyn o'r plwyf a dod yn ôl â Margaret yn wraig, ond ni ddywed wrthym ddim i esbonio beth a ddigwyddodd rhyngddynt.

Ar ôl hanner awr o gael eu hysgwyd yng nghefn y fan roedd yr ewfforia'n prysur ddiflannu.

Mae nifer o'r mannau nythu (fel tyllau mewn hen goed) yn prysur ddiflannu ac, yn sicr, ni ellir, yn ôl pob tebyg, ddod o hyd iddyn nhw yn iard yr ysgol.

VAUGHAN:...ond rhybuddiodd y Bwrdd y gallai ewyllys da tuag at yr iaith ddiflannu oherwydd eithafiaeth.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Edrychai'r Gors Las yn welw iawn yn ei llewyrch, yn welw ac yn beryglus - yn ddigon peryglus i unrhyw un gredu iddi lyncu hofrennydd mawr i'w chrombil i ddiflannu am byth yn ei llysnafedd gwyrdd ac yn ei mwd melyn.

Yn Bouncing Back, gofynnwyd iddynt sut y buont yn ymdopi unwaith i'r straeon ddiflannu o'r penawdau.

Pawb yn ddistaw, rŵan.' Wrth edrych dros eu hysgwyddau gallent weld coed y winllan yn cyrraedd bron atynt ac roedd yn gysur gwybod y gallent ddiflannu yn bur sydyn i dywyllwch y coed pe byddai angen.

Wedi hen ddiflannu.

I ddiflannu fel na welai neb o byth.

Er i lawer o gaeau gwair ddiflannu a thir gael ei drin neu ei ddefnyddio'n wahanol, mae'n dal yn bosibl dod o hyd i'r tegeirian tlws yma.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

Cawsom ein cinio ar yr ochr draw, cyn i'r haul ddiflannu tu cefn i Lliwedd ac i'r oerfel ddechrau gwasgu.

'Ie,' meddai Gwyn wedi iddo ddiflannu, 'Ond safodd o ddim wrth Lety Plu.

Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny).

a dihuno i weld bod yr afal wedi hen ddiflannu.

Pob llwyddiant, Dinogad." Rwyt yn diolch iddo am ei gymorth ac yn aros iddo ddiflannu i'r twnnel cyn troi am y de.

O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.

Mae economegwyr yn amcangyfri y gall 50,000 o swyddi ddiflannu yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys 1,500 yng Nghymru.

Erbyn iddo droi'i gefn ar yr olygfa erchyll roedd y car arall wedi hen ddiflannu, gan ei adael i ffonio Llundain a gyrru'n ôl.

Ond gall cannoedd rhagor o swyddi ddiflannu am fod BMW wedi gwerthu Rover.

Dywedir nad oedd hi ddim yn beth anghyffredin yn ystod y briodas i Harris ddiflannu o bryd i'w gilydd ar feddwad.

Ond mae arferion felly yn prysur ddiflannu a phawn yn fwy annibynnol.

Aeron y criafolen a'r ysgawen yw'r cyntaf i ymddangos ac i ddiflannu, a'r mwyalchod sydd yn bennaf gyfrifol am eu diflaniad.

Wrth gwrs, ni all y bardd (mwy na ninnau) groesi o'r presennol yn ol at y profiad; ni all, pan fynno, ddiflannu o'r Fan-a'r Foment-yn-Awr ac iengeiddio am bob ysbaid o gamu'n ol drwyddi.

Mewn llythyr at ei dad, y Brenin Harri IV, disgrifia'r tywysog sut y teithiodd tuag at Sycharth a 'phan gyrhaeddon ni, nid oedd yr un enaid byw i'w weld, ac felly llosgon ni'r llys cyfan yn ulw.' Rydym ni'n ffodus heddiw fod Iolo Goch wedi disgrifio'r llys hwn o'r Oesoedd Canol mor fanwl cyn iddo ddiflannu am byth.

Ymgyrchu dros fywyd gwyllt Cymru MAE perygl i lafant y môr prin, lili Eryri a phlanhigion ac anifeiliaid eraill ddiflannu am byth o Gymru os na fydd ymdrechion newydd i amddiffyn ein harfordir a'n cefn gwlad.

Wrth gwrs, hen ofergoelion yw'r rhain, ofergoelion a ddylai fod wedi hen ddiflannu yn yr oes oleuedig hon - ond nid felly y mae.