Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiflastod

ddiflastod

Ar ei orau, try ei bregethu'n berfformiad esthetig ac ar ei waethaf yn ddiflastod amherthnasol.

Nid oedd gennyf ronyn o chwaeth at fasnach, ie yr oedd ynof wrthwynebiad mawr iddi; a theimlwn nad arnaf fi yr oedd y bai fy meistr Abel oedd wedi fy arwain i hyn, ac wedi creu ynof ddiflastod at fusnes a chyfeirio fy nhueddiadau at bethau eraill.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Gwelwn yma yr ochr dywyll i'r hyn sydd yn digwydd yng nghefn gwlad gyda'r ffermydd yn cael eu torri, y colli cydweithrediad cymdeithasol a thrwy hynny rhyw ddiflastod yn ymlusgo i mewn i beth mae llawer yn gredu yw'r ffordd delfrydol o fyw.

Wedi cyffro gemau Cwpan Heineken ddydd Sadwrn cafwyd mwy o ddiflastod.