Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddifri

ddifri

Rhaid cymryd y teledu a'r ffilm gymaint gymaint o ddifri fel cyfryngau a'r nofel neu'r ddrama lwyfan.

A rhywsut, roedd rhywbeth yn dweud wrth pawb fod y swyddog ifanc o ddifri.

Naill ai ein bod o ddifri ynghylch adfer y Gymraeg yn brif iaith Sir Gaerfyrddin neu ein bod yn gwastraffu arian yn y byd addysg.

Edmygwn fanylder Robin, ond o ran hynny un felly oedd wrth natur, gan ymaflyd o ddifri' yn beth bynnag a wnâi.

Yn syth bwriodd iddi o ddifri i gyhoeddi peth o'i gynnyrch barddonol ac ygolheigaidd.

Wedi cael fy nerbyn a symud i'r Capel y mwynheais yr Ysgol Sul o ddifri oherwydd dyna pryd y dechreuasom drafod crefydd.

Yn naturiol, does dim modd bwrw golwg feirniadol o ddifri ar bum cyfrol wahanol iawn i'w gilydd o fewn cwpas erthygl fer: hwyrach, serch hynny, fod rhywfaint o bwrpas mewn croniclo bras- argraffiadau sy'n codi o ddarllen cynifer o stori%au gwahanol y naill ar ôl y llall o fewn ychydig ddyddiau, a'r cyfan ohonyn nhw, rhaid dweud, yn gynnyrch llenorion go iawn sy'n grefftwyr yn y maes ac sydd, o'r herwydd, yn gwybod beth y maen nhw'n ceisio'i wneud.

Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.

Nid oedd yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd oedd ohoni yng Ngogledd Cymru yn gyfryw i feithrin na chynnal arlunydd o ddifri.

Gallai ystyried, o ddifri, sut gi fyddai orau ganddo fo i'w gael yn gyfaill ac yn gwmni iddo.

Ted Huws, yr Ardd yw'r awdur, ac yn y cyflwyniad i'r llyfryn, dyma a ddywedir - "Ymroes Ted o ddifri i'r ymchwil ar ei destun.

Hwyrach mai dyna sy'n esbonio pam y mae'r dilyniant yn aeddfetach nofel na'r un gychwynnol; rhyw ffureta o gwmpas a wnâi Harri'r myfyriwr yn ymhe/ l â maes nad oedd yntau'n fwy na'r nofelydd a'i creodd yn gwbl o ddifri ynglŷn ag ef.

Ond anwybyddir hanes yr Eidal yn rhy fynych o lawer gan y sawl sy'n hoff o ddifri%o'r genedl.

Cwestiynau gwaelodol Mae yna dri chwestiwn gwaelodol i'r sawl sy'n meddwl o ddifri am ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

Yn naturiol chefais i rioed ddim arlliw o gefnogaeth gan Mam wedi iddi ddeall o ddifri fy mod am fynd i'r mor ac ar ol gadael yr ysgol yn bymtheg oed euthum i weithio yn y Post yn cario teligramau a negeseuon, ond fy nod o hyd oedd cael lle ar long.

Mae'n ymddangos fod y datblygwyr sydd ag awydd prynu cae pel-droed Bangor yn dal o ddifri ynglŷn a'u cais.

Yng Nghymru gellir maddau popeth ond bod o ddifri ynglŷn â'r iaith.

Yma mewn un 'frawddeg wrth wrthbwyntio Lluosog ac Unigol, newidiodd Morgan Llwyd ei dôn o un ddifri%ol, gondemniol, watwarus y rhan gyntaf i un ymbilgar, dirion yr ail ran.

Ond erbyn hyn roeddwn i wedi llwyr gyffroi ac wedi dechrau dyrnu a pheltio o ddifri.

Dyna roeddwn i'n ei olygu wrth anaeddfedrwydd: methu derbyn y sefyllfa ac addasu iddi, ei theimladau gorffwyll, melodramatig yn lliwio ei holl agwedd ar fywyd, nes bod popeth yn cyfyngu a chulhau i un pwynt caled fel haearn, na adawai yr un dewis amlwg arall iddi ond ei lladd ei hun, a dianc o garchar ei meddwl felly." "O, rwyt ti'n fodlon derbyn ei bod hi o ddifri ynglŷn a'r peth, felly?

Mi es i ati, ond dim ond cael gwersi unwaith yr wythnos yn Llangollen, ond wedi symud i Manafon mi ges i afael ar Weinidog nepell o Lanbrynmair, Llanfair Caereinion ac mi es ati o ddifri wedyn i ddysgu.

Yr oeddent o ddifri.

Yn hollol o ddifri.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad.

Arweinir ni i amau a yw'r nofelydd o ddifri am ­ Harri fod yn offeryn propaganda o blaid y gymdeithas ddi-ddosbarth.

Wrth gwrs mi laddon ni'r rhai oedd yn gwrthod, i ddangos i'r lleill ein bod ni o ddifri.

Na o ddifri dwi ddim yn gwbod.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Rhyw las gole oedden nhw, bob amser fel pe baen nhw'n sbio trwyddoch chi, a phan fydde fe'n wherthin - a phur anamal fydde hynny - fedrech chi byth deimlo'i fod e o ddifri.

Maent yn cymryd y Tombola o ddifri.

Serch hynny, mae'r hanesion yn ddifyr ac yn cadw diddordeb y darllenwr tan y diwedd ac mae'r cynnwys ieithyddol yn ddigon swmpus i roi her i ddysgwr sydd o ddifri am wella'i afael ar y Gymraeg.

Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg.

Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.

Ond heddiw, yn y coedwigoedd, y bydd y cystadlu'n dechrau o ddifri.

Erbyn hyn roedd yr ymchwil am hunaniaeth wedi cychwyn o ddifri ac am ddeugain mlynedd beichiwyd llenyddiaeth Cymru (yn enwedig y rhan Saesneg) a'r rheidrwydd i archwilio lle'r hunan, a lle'r genedl yn y byd.

Ac wrth weld hynny aeth yntau yn ei flaen, "Rydw i o ddifri, wyddoch chi.

Oddi ar iddo ddechrau cynilo o ddifri, byddai'n prysuro heibio i'r siopau.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

Ond oeddwn i'n annibynnol o ddifri?

Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r BBC ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936.

Yn Andorra, gogledd Sbaen yr oeddwn, ac wedi dewis dod yma am nad oeddynt yn cymryd y sgio o ddifri - camgymeriad dybryd!

Un peth amlwg yw fod Saunders Lewis yn herio llenorion i fynd i'r afael o ddifri â phynciau mawr eneidegol y bywyd dynol.

Ond, o ddifri, mae rhywbeth unigryw yn perthyn i daith rygbi, a gweithgaredd i ddynion yn unig yw'r digwyddiad--gan nad yw'r adnodde na'r gwestai bob tro yr hyn fydde dyn yn ei ddewis ar gyfer gwylie gyda'i wraig neu'i deulu.

'Dydi o ddim yn gofyn llawer gan y cydwybodol.' Nac ydi.' 'A'r rhai sydd o ddifri, wrth gwrs.

Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi yn amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg.

Ond o ddifri, o fod wedi cael rhyw dywedwyd y byddai rhedwr yn cyrraedd diwedd y farathon gryn chwarter awr yn gynt na phe byddai wedi mynd yn syth i gysgu.

Cawn weld ymhen blwyddyn faint sydd o ddifri ynghylch y Gymraeg.

"Ond, at hyn own i'n dod, boi%, a phoerad ar lawr y siop cyn cychwyn ar y stori o ddifri.