Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddifrif

ddifrif

Os yw'r Cadeirydd o ddifrif am sicrhau cyfle cyfartal i siaradwyr y ddwy iaith yn y Pwyllgor, dylid asesu a monitro pob cyfarfod.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Cyn i'r llawenhau fedru cychwyn o ddifrif mae LIWSI yn ymryddhau oddi wrth y grwp sy'n cadw reiat a chamu y tu allan i'r ty unwaith eto.

O'r cychwyn cyntaf, mae'r bardd yn gwneud sbort am ben y rhai hynny sy'n cymryd y grefft ormod o ddifrif, a'r parchusion hynny sy'n uchel eu hael a'u hagwedd.

Deuai pobl o bob rhan o Gymru i edrych ar y Cloc Blodau rhyfeddol hwn, a dechreuodd rhai rhannau eraill o Gymru feddwl o ddifrif am gynllunio yr un fath o beth i ddenu ymwelwyr i'w hardaloedd nhw yn y dyfodol.

Os ydym wir o ddifrif am greu dyfodol i'r Gymraeg rhaid i'r Cynulliad ddeffro a sylweddoli pa mor anferth yw'r dasg o drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg. 03.

Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.

Gwyddent oddi wrth dôn ei lais ei fod o ddifrif, ac erbyn iddynt gerdded i lawr ato, gwelsant fod ganddo gawell wedi ei wneud o wifrau yn ei ddwylo.

Maldwyn Evans, golygydd Y Llan, ar ddechrau'r Rhyfel y byddai'r argyfwng a wynebodd y wlad yn gyfrwng i ddod â'r bobloedd i'w coed, yn ysgogiad iddynt droi, o ddifrif calon, at bethau dyfnaf bywyd.

Wrth i Adam orfodi'r car i mewn i gêr arall, ac i'r injan brotestio'n chwyrn, dechreuodd Gareth boeni o ddifrif am y posibilrwydd hwnnw.

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

I ddangos ei fod yn onest ac o ddifrif, rhoddodd ei waled yn llawn o arian i'r ceidwad i'w warchod nes iddo ddod allan.

Cofia di, rŵan." Ac yr oedd Joni'n adnabod ei fam yn ddigon da i wybod ei bod hi o ddifrif, ac y byddai raid iddo osgoi'r amiwsments.

Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.

Ac roedd yn rhaid iddo feddwl o ddifrif.

Peth newydd iawn, a bygythiol iawn, oedd cael esgob yn trigo yn eu plith ac yn cymryd o ddifrif at ei waith bugeiliol.

Yn wir, 'roeddwn yn y coleg diwinyddol yn Llandaf cyn magu digon o ddiddordeb i fynd i wrando ar Fritz Kreisler a oedd yn ymweld a Chaerdydd ar y pryd; ac nid tan fy nyddiau yn gurad yn Y Waun, Sir Ddinbych, y dechreuais wrando o ddifrif ar symffoniau a phedwarawdau Beethoven, Mozart a Schubert.

Y byw arwynebol hwn oedd yn cael ei fygwth a'i siglo wrth inni edrych o ddifrif ar waith Paul Davies.

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu o ddifrif i greu deddfwriaeth newydd fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg a hynny o fewn ei dymor cyntaf.

Byddai yn y pwyllgor gwaith le bywiog iawn a'r trafod a'r dadlau bob am er yn adeiladol ac o ddifrif ag eithrio ambell dynnwr coes fel Huw Caer Loda!

O ganlyniad i'r trafodaethau hynny daeth i'r casgliad fod llawer mwy o ddarllen a meddwl o ddifrif o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog nag a welwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yna, dringo o ddifrif dros glogwyni o gregin llosg a'r llwybr yn arwain weithiau dros wyneb y graig ei hun nes gwingo o'r coesau gan flinder.

Roedd yn anodd ganddynt gredu ei fod wedi cael tro%edigaeth o ddifrif, ei fod yn awr yn pregethu ac nid yn erlid pobl Dduw fel cynt.

Yn ôl y rheolwyr yr atomfa, maen nhw'n cymryd y mater yma o ddifrif.

Na, ni chymer y nofel y frwydr o ddifrif o gwbl.

Pwysig hefyd yw sylwi ar honiadau Tsieciaid a Chroatiaid Awstria (fel y Magyariaid - ac Albanwyr Prydain) bod gan eu hen deyrnasoedd nodweddion gwladwriaethol o hyd, er na chymerid yr hawliau hyn o ddifrif gan yr awdurdodau.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwþr megis Y Parch.

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Cymraeg sy'n cymryd y gwaith o ddifrif.

Yn ystod ymweliad diweddar a Chanada sylwais fod hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei wyntyllu o ddifrif.

Roedd o o ddifrif, mor ddwys â chenhadwr.

Ynteu a ydym i dderbyn nad yw dyfynnu'r geiriau hyn ond yn rhethreg gwag ar ran Tywysog, nad yw'n deall, neu nad yw o ddifrif ynghylch, y geiriau y dewisodd eu llefaru?

Pa bryd y digwyddodd y torri allan o ddifrif?

Ond of er unrhyw freuddwydio felly, ac erbyn mis Ebrill dechreuodd pawb chwilio o ddifrif am gartref newydd.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod eithrio'r sectorau preifat a gwirfoddol o'r ddeddf yn arwydd clir nad yw'r ddeddf o ddifrif yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol yng Nghymru.

Wedi i'r llong ffroeni'i ffordd heibio i'r morglawdd dechreuodd pethau ddigwydd o ddifrif.

Oherwydd yr oeddwn yn ddeg ar hugain oed cyn dechrau dysgu Cymraeg o ddifrif, a chan na chefais y fraint o gael fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, nid oes gennyf mo'r reddf na'r hyder sy'n anhepgor i un a fynnai arfer iaith yn y modd mwyaf celfydd sydd, sef i wneud cerdd.

Yn fuan wedyn sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechreuodd efrydwyr ifainc Cymru frwydro o ddifrif dros einioes y genedl, canys dyna ystyr ymladd i gadw'r iaith.

Y profiad oedd fy mod yn teimlo'n gorfforol (a pheidied neb â chredu mai pen chwyddedig oedd gennyf am fy mod yn credu o ddifrif fy mod wedi cyflawni camp) .

Cyn iddo gael ei flasu o ddifrif, camodd clamp o gawr crand ato a holi ei fusnes yno.

Os oedd obsesiynau enwadol yn fynegiant o egni ar y naill law, roeddent hefyd ar y llall yn awgrym o bobl oedd o ddifrif am bethau llai na phwysig.

O ddifrif, wrth gwrs, mi ddylai pawb ohonom wneud mwy o ymdrech i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhaid meddwl o ddifrif am alw'r Gynhadledd y soniwyd amdani, a'r ddau gwestiwn a gyfyd yn naturiol ydyw pwy a i geilw ac ymhle y'i cynhelid?

Diau eich bod wedi deall erbyn hyn mai llyfr i'w gymryd o ddifrif oedd llyfr otograff fy mam.

Bellach 'roedd y cyfan yn dibynnu arnynt hwy, ac ni fynnent adael i'r amgylchiad fynd heibio heb ddangos i Lundain eu bod o ddifrif.

Tu draw iddo y dechreua'r dringo o ddifrif os am gyrraedd copa'r Wyddfa.

Yn ddeg ar hugain y dechreuais i ddysgu'r Gymraeg o ddifrif.

Y mae i'r newid hwn, sef y gostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn, oblygiadau pellgyrhaeddol sy'n mynnu ein hymateb os ydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau'r Gymraeg.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.