Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddifrifol

ddifrifol

Dull arall oedd torri croen braich person a throsglwyddo iddo gynnwys polleth claf nad oedd yn ddifrifol wael.

Welais i erioed ddyn wedi suddo i anobaith mor ddifrifol o'r blaen.

Oni bai y gall y Cynulliad sicrhau'r Gymraeg fel iaith swyddogol cyn 2003, bydd cwestiynau go ddifrifol yn cael eu gofyn ynglŷn ag ymrwymiad y corff hwn i'r iaith Gymraeg.

Ac i ble'r wyt ti'n mynd rwan?' 'Yr ydw i wedi cael gwahoddiad i dy Emrys i de.' 'Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno.' Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

'Roedd hi'n dweud bod 'na gwyn ddifrifol yn ych erbyn chi.

Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.

'Dwi ddim yn meddwl bod nhw'n sylweddoli mor ddifrifol oedd y broblam.

Mae'r sefyllfa'n ddifrifol iawn unwaith eto i'r bobl hynny yn Hartisheik sy'n methu â chael tocynnau bwyd.

"Fe ddylen ni ystyried yn ddifrifol sut fydd Bethesda yn edrych yn y dyfodol - a fydden ni wedi colli cymeriad yr ardal?"

Ym marn rhai aelodau o'r Bwrdd ei hun, y broblem oedd fod y newid wedi digwydd yn ddifrifol o gyflym - roedd hi'n ymddangos ar y dechrau fod hyd yn oed fudiadau fel Merched y Wawr yn cael eu gwrthod.

Nid wyf yn ddigon ffôl i gredu mai drygioni ac anwybodaeth sydd wrth wraidd syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fy hun fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Nid wyf yn ddigon ffol i gredu mai drygioni sydd wrth wraidd y syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Un nos Sul, a minnau erbyn hynny wedi symud o'r fro a chartrefu yn ardal Dinmael, daeth neges teliffon yn gofyn imi frysio adre i fro fy mebyd am fod Mam yn ddifrifol wael.

Dau yn unig oedd yn y ras y diwrnod hwnnw ac yr oedd y Rheolwyr yn betha' od o glên, pob parch iddynt, ac yn holi'n ddifrifol o gwrtais.

Fel bron pob dolur arall fe all ei effaith fod yn ddifrifol ambell waith.

Os yw yn ddamwain ddifrifol mae'n rhaid ffonio'r Arolygaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid peidio ag amharu ar unrhyw beth yn y man lle ddigwyddodd y ddamwain nes ei fod wedi'i archwilio gan yr Arolygydd.

Gydai ffrog wedii thorri o faner y Ddraig Goch, llwyddodd i ddod ag apêl secsi i'r Cynulliad tran cyfleu neges ddifrifol.

A dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchar, David Roddan, fod y mater yn ddifrifol iawn.

Mae melyn yn dynodi fod y plentyn yn dal i ddiodde'n ddifrifol o effeithiau newyn.

ch) Symud/Codi Os yw'r person yn anymwybodol neu wedi'i niwedio'n ddifrifol, peidiwch â cheisio ei symud na'i godi; gadewch hyn i'r person/personau sy'n gwybod am Gymorth Cyntaf.

Cafodd niweidiau mor ddifrifol dim ond un siawns mewn deg a oedd ganddi i oroesi.

Meddyliodd yn ddifrifol ynghylch gwahardd pob math ar hap-chwarae.

Sef peidio â gosod dirwy, os nad yw'r drosedd yn un ddifrifol iawn, a rhoi rhybudd yn unig i'r gyrrwr.

'Roedd Denzil yn hapus iawn ym Mhenrhewl ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i ffarmio ar ôl iddo gael damwain ddifrifol ac anafu ei gefn.

Gwraig ddifrifol oedd Anti, ni chofiaf amdani'n chwerthin, a phrin yn gwneu, ac ni chredaf ei bod yn boblogaidd ymhlith y bobl ifanc.

Dychmygais fod rhywun yn ddifrifol wael yno, a hwyrach ei fod ar ei ben ei hun hefyd, ac yn methu symud oddi yno i of yn am help.

Ond roedd Orig yn edrych yn ddifrifol iawn.

Mae'r daten druan yn cael triniaeth ddifrifol gan ddiwydiant, yn cynnwys ei throchi mewn soda brwd ar gyfer ei phlicio.

Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.

Yn 1999 bu Llew a Nia mewn damwain car ddifrifol a gadawyd Nia yn gwbl ddiymadferth.

Fe agorodd y drws ac aeth i mewn i'r ty a be welodd ond Rondol yn gorwedd ar ei hyd ar lawr, a heb fod ymhell oddi wrtho roedd Begw yr un modd.Cerddodd fy nhaid i ganol y ty ac edrychodd arnynt yn ddifrifol ac meddai 'Diar mi.

Tegla Davies i holi'n ddifrifol, i ba bwrpas?

Fe ddylen ni wybod heddiw pa mor ddifrifol yw'r broblem.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

Ond un noson, tarawyd yr hen fodryb yn ddifrifol wael, ac ymhen yr awr yr oedd hi wedi marw.

Chafodd neb ei anafu'n ddifrifol ond nawr mae pryderon difrifol am ddiogelwch pobol sy'n byw yn agos at burfeydd o'r fath.

Gyda help Derek achosodd Mrs Mac ddamwain ddifrifol a chafodd ei charcharu.

Edrychai'n lliprynnaidd a digalon, a dychwelodd fy nghyfarchiadau mewn llais dwys ddifrifol.

Ni fu farw neb yn Hu%nxe, ond cael a chael oedd hi fod dau blentyn o Libanus wedi byw, ar ôl iddynt gael eu llosgi'n ddifrifol, ac fe fydd y creithiau ganddynt am byth.

roedd wyneb lopez yn ddifrifol mae dau berson wedi cymryd lle betty a susan yn barod, senorita craig.

Dywedwyd y stori yma wrthym yn hollol ddifrifol a heb wên a'r unig chwerthin a fu rhyngom i gyd oedd wrth ddychmygu wynebau lladron y car wrth iddynt agor y babell a oedd wedi'i rholio ar do'r car.

Wnaeth e erioed gymryd dim byd mor ddifrifol â hynny; wnaeth e ddim drwg i neb ar wahân iddo'i hun efallai a wnaeth e erioed elynion a hynny mewn pwllfa lle mae gan y rhan fwyaf ragor na'u siâr ohonyn nhw.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Roedd yr olygfa yr oedden nhw newydd ei gweld yn un rhy ddifrifol i'w hanwybyddu.

Nid yn unig y rhai sydd yn gweithio'n uniongyrchol yn yr orsaf fydd yn teimlo'r effaith, ond bydd yn cael effaith ddifrifol hefyd ar yr economi leol wrth golli gweithwyr oedd yn cael eu talu'n gymharol dda, a bydd yr effaith ar siopau lleol yn amlwg.

Siom yn unig oedd yr olaf, ond 'roedd colli'r decpunt yn ddifrifol.