Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddifyr

ddifyr

Bydd yn ddifyr dilyn y postmortem ac yntau yn awr yn cychwyn ar ail hanner ei dymor gyda ni.

Diolchwyd iddo am sgwrs hynod o ddifyr gan Mrs Bridget Evans.

CLWB Y FELIN: Dathlwyd Gŵyl Ddewi eleni yn y Llofft Hwyliau a threuliwyd noson hynod o ddifyr gan dros hanner cant o bobl.

Dosbarth Carnedd: Mwynhaodd y dosbarth sgwrs ddifyr gan Mr Goronwy Evans, Llwyn Onn, am ddigwyddiadau ffermio mewn cyfnod o flwyddyn.

Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r llyfryn hwn yn cychwyn.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Yma, mae CLEDWYN FYCHAN yn disgrifio dwy daith ddifyr y gallwch eu gwneud yn rhannol mewn car ac yn rhannol ar droed.

Diolch i Mrs Margaret Jones, Cafnau, am drefnu diwrnod mor ddifyr i ni.

Maent yn ffraeth, yn ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.

TEITHIAU DIFYR (Teithiau Cerdded Cylch Hanes Dyffryn Ogwen): Cafwyd dwy daith hanes tu hwnt o ddifyr yn ystod Mai a Mehefin.

Nawr dyna ichi joban ddifyr nad oedd neb yn sôn amdani wrth drafod gyrfa pan oeddwn in gadael yr ysgol.

Cael sgwrs reit ddifyr.

Mae na ragolygon am noson ddifyr!! Pob hwyl am y tro.

Byddai'n ddifyr sylllu ar y tafod hir ystwyth yn llyfu o'u cylch.

"Llawer o ddiolch i Tudur a Theo, nid yn unig am daith ddifyr tu hwnt ond hefyd am yr holl waith paratoi trylwyr a wnaeth y ddau ymlaen llaw.

Yr hyn sy'n dda am y straeon hyn yw pa mor ddiniwed o ddifyr ydynt.

Serch hynny, mae'r hanesion yn ddifyr ac yn cadw diddordeb y darllenwr tan y diwedd ac mae'r cynnwys ieithyddol yn ddigon swmpus i roi her i ddysgwr sydd o ddifri am wella'i afael ar y Gymraeg.

Yn hyn a'm trawodd yn ddifyr o'i ddarllen oedd geiriau tafodiaith y gohebwyr wrth gyfrannu i'r papur.

Ynghyd â'r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.

Ffordd y Gwarchodwyr o gadw'r bobl mewn gwaith ac yn ddifyr.

Yr oedd y siopwr yn y pentre bach yn serchog, a chyn bo hir yr oedd y ddau'n cael sgwrs ddifyr a diddorol.

Yr oedd wrth ei fodd ar Lawnt y Peli yn chwarae Bowls, ac yr oedd yn gryn gampwr ar hynny a'i hanesion am y gemau yn ddifyr a doniol.

Ac fel rhan o'n defnydd parhaol o sêr radio ar deledu cyflwynwyd Frank Hennessy mewn arddull AmeriCelt yn y rhaglen ddifyr Way Out West.

Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.

A fyddwn yn cydweld a chroesawu rhai o'r safbwyntiau, sy'n beth arall ond mae'n sicr yn ddifyr darllen amdanyn nhw er bod y gyfrol yn aml yn rhy agos at yr ‘adroddiad swyddogol' o ran arddull.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.