Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddigalon

ddigalon

Wrth gymryd stoc o bethau yn ystod y fendith a draddododd Huw Huws, euthum braidd yn ddigalon.

Ysgydwodd Lewis ei ben yn ddigalon.

Mae'n anodd heddiw deall pa mor chwyldroadol oedd y Stryd pan gychwynnodd: cyfres am bobl gyffredin o'r dosbarth gweithiol yng ngogledd Lloegr gyda cherddoriaeth agoriadol ddigalon.

Rhai gweithiau eraill fe'i clywais yn ddigalon.

Un fel yna oedd Bleddyn, uwch ben ei ddigon pan oedd popeth yn mynd yn iawn ond yn ddigalon os nad oedd yn llwyddiannus.

Daliodd Wrecsam eu gafael yn dynn yn y cwpan ar noson ddigalon i Abertawe.

Edrychodd y meddygon yno yn ddigalon ar ei gilydd.

Ar ôl paned o de, a oedd fel tenti riwbob, a mygyn, dyma ffarwelio â'r brawd a phawb yn ddigalon am nad oeddynt yn aros yn hwy.

Aeth fy nghyfaill Williams dipyn yn ddigalon.

'O wel, bydd rhaid i mi daflu f'un i yn “l, felly,' meddai Bleddyn yn ddigalon, 'mae hwnnw'n llai fyth.'

Cerddodd Del yn ôl i'r tŷ yn ddigalon.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

Yn sydyn ryw fore llamodd y bêl i ben bryn a edrychai dros ddyffryn eang, a gwelodd Idris, o'i dilyn, olygfa ddigalon iawn.

Ond y noson honno, â'r plismyn wedi anobeithio cael hyd i'r hofrennydd coll, y dringwyr wedi rhoi'r gorau i chwilio amdano a phawb wedi dychwelyd i'w cartref yn ddigalon, yr oedd rhywrai yn chwerthin yn braf am eu pennau.

Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.

Er y gellid yn hawdd bod yn ddigalon ynglŷn â sefyllfa'r Gymraeg heddiw a'r treialon sydd yn wynebu plant ac oedolion ifainc, y mae un peth yn sicr, y mae unrhyw fuddsoddiad a wneid i'w hybu a'u cynnal yn y Gymru sydd ohoni yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf a mwyaf gwerthfawr.

A gwyr arweinwyr ein heglwysi mai gwaith pur ddigalon yw ceisio sicrhau gweithgarwch ac ymroddiad gan aelodau eglwysig nad ydynt mewn gwirionedd yn Gristionogion argyhoeddedig.

Roedd rhai o'r peilotiaid newydd ddianc o Ffrainc ac yn ddigalon ar ôl colli llawer o'u cyfeillion yn y rhyfel.

LIWSI: (Wrth y gynulleidfa) Mae hyd yn oed y teledu yn ddigalon yn ty ni.

Gorffwysai Rageur a Royal wrth ei draed Gorweddai Rex yn crio'n ddigalon wrth y drws mewn hiraeth am Alphonse.

Roedd y cynigion i gyd yn y cywair lleddf; roedden nhw i gyd yn ddigalon, ond digalon yn gyffredinol ac nid dim ond digalon ynghylch Cymru, ac roedd hynny'n rhyw fath o gynnydd.