Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddigonol

ddigonol

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.

Serch hynny, nid yw cael amgylchedd addas yn unig yn llwyr ddigonol; rhaid yn ogystal gael digon o amser i fywyd allu datblygu ynddo.

Er mor ddiddorol ac atyniadol yw rhai o'r ffresgoau a'r ffenestri hyn, y gellir eu gweld o hyd mewn ambell eglwys yng Nghymru a gwledydd eraill, ni ellid honni ar unrhyw gyfrif eu bod yn ddigonol i gymryd lle darllen y Beibl a myfyrio arno.

Rhaid bod cryn dipyn ohono ar gael er mwyn iddo allu ffurfio gwedd hylifol ddigonol.

O fewn Newsnight, ceir elfennau anfoddhaol, a barn y Cyngor yw bod angen ailystyried newyddion hwyrnos, fel y gellir bodlonir gynulleidfa amlwg ar gyfer y gwasanaeth yn ddigonol.

O fewn Newsnight, ceir elfennau anfoddhaol, a barn y Cyngor yw bod angen ailystyried newyddion hwyrnos, fel y gellir bodloni'r gynulleidfa amlwg ar gyfer y gwasanaeth yn ddigonol.

Mae'r aelodau'n parhau i deimlo nad yw rhaglennu rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu Cymru gyfan yn ddigonol, ac mae dyfodiad datganoli yn cynnig sialens newydd i adlewyrchu ac i wasanaethu Cymru a'i thalentau ar wasanaethau rhwydwaith.

Yn rhy aml rhoddir blaenoriaeth i'r dechneg gan anwybyddu dealltwriaeth ddigonol o sefydliadau a pherthnasau sydd ynghlwm wrth amryfal agweddau o'r economi.

On dnid yw'r genre hwn bellach yn cyfleu'n ddigonol, nac yn herio, y profiad Cymreig cyfoes.

Nid yw'n ddigonol darparu ysgyfaint yn unig ar gyfer y pysgodyn.

Gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant ac arolygiaeth ddigonol i alluogi pob gweithiwr

PENDERFYNWYD (i) Gohirio gweithredu rhybudd gorfodaeth hyd nes y ceid tystiolaeth ddigonol bod datblygiad anawdurdodedig yn cymryd lle ar y safle.

Roeddwn wedi meddwl bod siarad dim ond Cymraeg o'r eiliad cerddodd yr heddlu i mewn yn ddigonol.

Esiampl weddol syml o'i ddefnydd a gyflwynwyd yma, ond mae'n ddigonol i ddangos effeithioldeb yr algorithm genetig.

Pan basiwyd Deddf Iaith 1993 roeddwn yn gwbl sicr nad oedd yn ddigonol.

Yr oedd y lliain mor glaerwyn, y grefi mor ansefydlog, llygaid Anti Lw a'r misus mor dreiddgar, fel y byddai'n amhosibl bron i mi ddod trwy'r cinio'n ddidramgwydd ac yn ddigonol.

Dwi'm yn cofio beth oedd ymateb y siopwr ond dwi'n gobeithio fod hon yn enghraifft ddigonol o gyfrwystra'r lleidr llestri Vatilan.

Os nad oes tystiolaeth ddigonol, gellir ei gadw i mewn heb ei gyhuddo os bydd y Swyddog Cadwraeth yn ewyllysio hynny, tra byddir yn chwilio am fwy o dystiolaeth, neu tra bo'r heddlu'n ei holi.

Ac efallai, megis yr anogai yr Arglwydd Iesu dlodion dydd ei ymgnawdoliad i ystyried y lili ac ehediaid y nefoedd rhag gorofalu am ddillad a phorthiant, nad amhriodol yw i'r digartref feddwl am y crwbanod a'r malwod a chreaduriaid eraill y darparodd y Creawdwr a'r Cynhaliwr mor ddigonol ar gyfer eu problem tai.

Cyflwynodd Mabon a Ffederasiwn Glowyr De Cymru dystiolaeth fanwl am weithredoedd bwystfilaidd y polîs, ond yn wastad cawsant ateb pendant a boneddigaidd oddi wrth Churchill: 'Na', nid oedd sail ddigonol i gyfiawnhau cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus.

Ymhellach, dadleuwn yn gryf nad yw'n ddigonol i'r iaith Gymraeg gael ei chyfyngu o fewn termau un Pwyllgor Pwnc yn unig.

Mae'r Cyngor yn awr yn chwilio am fentrau ategol sydd wedi eu cyllido'n ddigonol i gyfathrebu â'r gynulleidfa ar lwyfan ehangach.

Mewn rhai achosion nid yw'r gefnogaeth i'r staffio wedi bod yn ddigonol i gyflawni'r projectau o fewn yr amser disgwyliedig.

Syniadau newydd - rhaid sicrhau fod Cymru'n elwa'n ddigonol ar ddatblygiadau newydd megis y Film Industry Training Fund.