Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddigwydd

ddigwydd

v) roi gwybod ar unwaith i'r Cyfarwyddwr neu Uwch Swyddog pan ddigwydd damwain.

Nid wyf wedi clywed unrhyw siw gan neb eto o beth sydd yn debyg o ddigwydd.

Roeddwn ar y pryd wedi bod yn gweithio fel un o bedwar Cyfreithiwr Erlyn yn swyddfa'r Prif Gyfreithiwr Erlyn, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin, ers rhyw ddwy neu dair mlynedd cyn i'r achlysur 'rwy am ei ddisgrifio ddigwydd.

Dangos sut y bu i hyn ddigwydd a dangos goblygiadau'r digwydd yw prif bwrpas Gwanwyn yn y Ddinas, sef cyfrol sy'n ddarn o hunangofiant y bardd.

A ddigwydd hynny neu beidio, cawn weld.

Gobeithio y bydd yna gadoediad cyn i gyflafan ddigwydd.

A dyna'r adeg y dechreuodd pethau ddigwydd.

Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.

Fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd gyda'r Geiriadur Idiomau gan y bydd yn gaffaeliad arbennig i ddysgwyr a fydd yn ei ddefnyddio yn llusern i'w goleuo am ddywediadau dieithr.

Fe ddigwydd dihewyd mewn enwau lleoedd eraill yng Nghymru hefyd.

Dyna sydd wedi digwydd yn America a dyna a ddigwydd ym Mhrydain hefyd.

Y STIWT - TEML GYMDEITHASOL, Meredith Edwards Wel, wel, be' sy'n mynd i ddigwydd i'r Stiwt, tybed?

Tybir i hyn ddigwydd am fod y betys yn hybu effeithiolrwydd yr iau; ac un o swyddogaethau'r iau yw trin braster.

Os ydym am edrych ar wlad sydd i'w chymharu â'r hyn allai ddigwydd yng Nghymru, yna at y Basgiaid y dylem droi.

Dyle Cymru ddechrau fel ffefrynnau ond gyda'r tywydd fel mae e galle rhywbeth ddigwydd.

Yr hyn a ddigwydd yw fod unigolion yn cystadlu am adnoddau yn yr amgylchfyd, a bod rhai'n medru gwneud hynny yn well nag eraill.

Fe ddigwydd lot o bethe oddi ar y bêl, hefyd, ac yr oedd yn amlwg oddi wrth sylwadau'r Saeson ar ôl y gêm bod nhw wedi cael tipyn o siom o golli gartre.

Ydych chi'n credu y gwnaiff hynny ddigwydd?

Wrth ymdrin â'r Llyfrau Gleision, rhaid cofio i'r drafodaeth ar y pryd ddigwydd yng nghyd-destun y ddadl ynglŷn â grantiau i addysg.

Fe ddigwydd y terfyniad hwn hefyd, neu berthynas agos iddo mewn enwau lleoedd yn yr ystyr "llawer, nifer." Ceir ef mewn enwau megis Prysor "llawer o lwyni%, Perthor "llawer perth", Gwernor "llawer o goed Gwern" a Castellior "llawer caer." Mae'n amlwg mai croes "cross" yw elfen gyntaf yr enw Croesor.

Dyma'r rhan o'r gêm lle na all neb broffwydo beth sy'n mynd i ddigwydd, lle yr ydych chi a'ch gwrthwynebydd yn creu sefyllfaoedd na all neb eu rhagweld, ac, efallai, sefyllfaoedd na fu erioed o'r blaen mewn unrhyw gêm ers y dechreuad.

Pwy a wyddai beth a allai ddigwydd yfory?...

Teimlent yn siŵr bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd ac na fyddai yn rhaid iddynt aros yn hir cyn gweld yr ymwelydd dieithr yn dod ar ei neges ryfedd a dirgel at y ffynnon.

Y peth trist ynglŷn ag anifeilaid meddwn i wrthyf fy hun, yw eu bod yn peri i ddyn fynd yn dduw bach sy'n pennu eu ffawd ac yn gwybod y gwaethaf cyn i hynny ddigwydd iddynt.

'A ninnau wedi aros yr holl amser i hyn ddigwydd.' Rhedodd y tri yn ôl cyn gynted ag y medrent ar hyd y llwybr anwastad.

Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dridegau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.

Daliai i'r creu ddigwydd drwy'r Gair.

Yn awr mae'r frwydr yn twymo am i'r un peth ddigwydd yn Llundain.

Yr oedd hynny'n fwy trawiadol o'i gyferbynu â'r hyn a oedd i ddigwydd cyn bo hir yn yr Undeb Sofietaidd ac yng ngwledydd Dwyrain Ewrob.

Er gwaethaf y gwrthwynebiad unfryd hwn y mae Straw yn dweud ei fod on gwybod yn well na senedd a phobol yr Alban beth a ddylai ddigwydd yn y wlad honno.

"Mae'n well gen i ddelio gyda phroblem cyn iddi ddigwydd~" meddai.

A rhaid cofio, wrth gwrs, fod y gred y gallai Ailddyfodiad Crist ddigwydd yn fuan yn beth hynod gyffredin ymhlith cyfoeswyr mwyaf uniongred Llwyd, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cofleidio syniadaeth Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.

I mi, merch yw'r un a gyferchir yn y penillion ac ol-athronyddu methiant carwriaeth yw'r cynnwys, sef ceisio dadansoddi'r gyfathrach agosaf a mwyaf personol a all ddigwydd rhwng mab a merch.

Beth sydd yn debyg o ddigwydd?

Yr oedd popeth ynddi y dylid ei weld ar gae rygbi, heb yr ymgecru, yr ergydio a'r pystylad a ddigwydd yn rhy aml.

Dylai fod wedi dweud wrth y swyddog arall oedd yn effro ar y pryd i gadw ei lygad arno rhag ofn i rywbeth ddigwydd.

Felly, edrychwch yn ofalus ar y gūr neu'r cariad y tro nesa y bydd yna ffilm go emosiynol ar y teledu, rhag ofn i chi ddigwydd ei ddal yn sychu'i lygaid yn slei back efo cefn ei law.

Wrth i hyn ddigwydd gwelwyd cwch modur yn rhuthro tuag atyn nhw.

Yn dilyn, fe ddigwydd anghysur i filoedd, onid i filiynau o bobl.

Yn ôl asiant Jones, Brad Jacobs, fe allai hynny ddigwydd yng Nghaerdydd.

Nid yw hi'n bosibl gweld popeth a ddigwydd mewn sgrym na ryc o'r eisteddle, ond yn sicr fe'i hystyrid hi'n ornest lân.

Mae Shell ar brawf yma hefyd, a da yw gweld fod eu cyfreithiwr yn y llys yn dyst i'r hyn a ddigwydd yma heddiw.

Mae gennym fel Cymry atgofion hallt am beth all ddigwydd gyda refferendwm.

Rhag i anlwc o'r math yma ddigwydd i'r sawl sy'n gweld ambiwlans yn mynd heibio iddo dylai'r person hwnnw afael yn dynn yng ngholer ei got, dal ei anadl a gwasgu'i drwyn nes gweld ci brown neu ddu!

Yn Nhywyn ym Meirionydd ceir Doldihewydd ac yng Nghwmrheidol, Ceredigion fe ddigwydd yr enwau Dihewyd a Pen Dihewyd.

oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleidyddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Fe welwch fod eu cyrff yn dechrau ysgytio a'u hwynebau'n ystunio cyn i ddim ddigwydd a chyn i ddim gael ei ddweud.

Felly roedd yn fater o beth brys ein bod yn mynd i'w weld cyn i hynny ddigwydd.

Gyda'r cynnydd mewn nofio tanddwr fel adloniant ym Mhrydain darganfuwyd llawer o drysorau ar hap ac mae mwy o hyn yn debyg o ddigwydd.

Ni fyddem yn derbyn yn ein cartrefi luniau teledu o ddigwyddiadau ar gyfandiroedd pellaf y byd eiliadau wedi iddynt ddigwydd.

Y stori yw, y tro cyntaf i hynny ddigwydd, iddo fod ar goll am dridiau.

Fe ddigwydd yr elfen cemais mewn cyfuniad ag elfennau eraill mewn enwau lleoedd weithiau.

Fel llawer o'r straeon gwerin cyfoes, mae lle i amau mai stori o America ydi hi'n wreiddiol - er bod y sawl sy'n ei hadrodd yn taeru'r du yn wyn i'r hyn a ganlyn "ddigwydd i ffrind"...

Maen dreth ar rywun, weithiau, i fynd âi blant ei hun ar drip achos gyda phlant wyddoch chi ddim beth all ddigwydd hyd yn oed gyda'r gofal mwyaf.

Yn hwnnw eglurwyd pa gyfiawnhad Beiblaidd oedd tros gynnal cyfarfodydd o'r fath ac esboniwyd mai "canu mawl a gweddi%o% ac "agoryd ein calonnau i'n gilydd" oedd i ddigwydd ynddynt.

A bydd Lloegr ddim isio fydd i hynny ddigwydd.

Dywedodd ei fod yn rhyfeddu fod amddiffyn timaur undeb wedi cryfhaun sylweddol ond nododd ei syndod i hyn ddigwydd ar draul symudiadau ymosodol.

Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dri-degau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.

Roedd pawb yn barod am saith i fynd adref er i beth rhwystr ddigwydd oherwydd fod rhai o'r bechgyn wedi eu dal yn ceisio dwyn bwrdd o'r dafarn a'i gario ar y bws.

Yn Lloegr enwau anifeiliaid ac adar herodrol - rhai a ddigwydd ar beisiau arfau boneddigion - a geir ran amlaf a dyma sydd tu ol i enwau megis The White Lion, The Eagle and Child, The Unicorn, The Talbot (cidu).

Fe all y rhain ddigwydd mewn ward ysbyty, hyd yn oed yn y trofannau.

Oherwydd yr holl newidadau hyn sydd i ddigwydd gyda'i gilydd, pob un yn ddiwerth heb y lleill, mae'n rhaid wrth anser eithriadol o hir i esblygiad llawn allu digwydd.

Ac ni fedrai'r dro%edigaeth honno ddigwydd heb i'r dro%edigaeth.

Enw'r tŷ oedd Tangerine House - y perchennog yn ddigon craff i wybod beth allai ddigwydd petai'n rhoi enw cywir lliw y tŷ - oren!

Y tro cyntaf i hynny ddigwydd yng Nghymru.

Fe ddigwydd hyn pan fo'r awyrgylch mewn Gwasanaeth lacha/ u yn un sy'n peri i'm calon losgi ynof â chariad at yr Iesu.

Dywedodd nad oes yna ddim byd yn mynd i ddigwydd yn sydyn.

Beth bynnag a ddigwydd rhwng Bob a Miss Evans, welwn ni fyth mohono.

Wedi i'r llong ffroeni'i ffordd heibio i'r morglawdd dechreuodd pethau ddigwydd o ddifrif.

Mewn alegori, y mae A yn cyfateb yn uniongyrchol i B ac os gelwir Gwenlyn yr ail Bunyan, yna disgwylir i hynny ddigwydd o fewn ei ddramau.

Daliai'r Gnosticiaid i gwymp ddigwydd yn achos dyn, o ysbryd pur i feidroldeb materol.

Llanwyd y craciau, ailaddurnwyd y waliau tu fewn, rhwystrwyd y lleithder rhag amharu mwy ar wynder y wal y tu ôl i'r pulpud a gwnaed pob dim yn ddiddos a chlyd er mwyn croesawu'r adfywiad a oedd yn sicr o ddigwydd.

Bydd hynny'n siwr o ddigwydd yng Nghaerlyr neu Blackburn.

Ymddengys y gallai hyn ddigwydd yn erbyn dymuniadau aelodau eraill y gymuned, gan gynnwys rhieni plant a fyddai'n debyg o gyrraedd yr ysgol yn y blynyddoedd i ddod.

Bu bron i ddwbwl unigryw ddigwydd yn yr Eisteddfod hon.

Gall hyn ddigwydd yn hawdd iawn os nad ydych yn fywiog iawn; hyd yn oed os yw'ch cymeriant o egni yn gymharol isel.

Cerddi Eraill: Bu bron i ddwbwl unigryw ddigwydd yn yr Eisteddfod hon.

ASIANTAETHAU A MENTRAU Cyngor y Llywodraeth Ganol Er gwaetha'r amgylchiadau hyn, mae'n amlwg y bydd rhaid i ddatblygu cyfleoedd gwaith newydd ddigwydd o fewn fframwaith polisiau presennol y llywodraeth.

Wedi'r fuddugoliaeth gorweddodd Leighton Phillips a minne yn y bath am hydoedd yn ceisio credu'r hyn oedd newydd ddigwydd ac yn meddwl tybed beth oedd yn mynd trwy feddwl Mike Smith druan.

Mynnai eu deuoliaeth hwy wedyn y byddai'n rhaid i ryw doriad sydyn, rhyw newid radical, ddigwydd i adnewyddu'r natur ysbrydol.

Maen nhw'n dal i gredu ym metamorffosis y teigr-ddyn sy'n cuddio yn ei ogof pan ddigwydd y trawsffurfiad syfrdanol.

Gall yr union briodweddau sy'n arwain i'r holl broblemau pan ddigwydd damwain, neu pan gam- ddefnyddir defnyddiau ymbelydrol, fod a chymwysiadau buddiol hefyd.

Y mae pryder gan y Pwyllgor yngln â dyfodol y broses adnabod anghenion a blaenoriaethu rhwng y projectau angenrheidiol a ddigwydd trwy waith PDAG.

Mae rhywun mewn chwys oer yn ofni a ddigwydd rhywbeth tebyg yma y flwyddyn nesaf.

Ac ni ddigwydd hynny heb dywalltiad nerthol o'r Ysbryd Glân ar yr eglwysi.

Pryderir y gallai hyn ddigwydd am fod lleiafrif bychan o'r gymuned - rhieni lleiafrif o'r plant sydd yn digwydd bod yn mynd trwy'r ysgol ar y pryd - yn dymuno addysg Saesneg yn bennaf i'w plant.

Gall unrhyw fath o gancr fywiogi'r firws ac achosi'r dolur ond wrth gwrs rhaid i'r firws fod yn bresennol cyn y gall hynny ddigwydd.

Y mae'r penwyr polisi%au, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r perygl hwn, ac wrth lunio polisi%au cyweiriol maent yn ceisio rhagweld yr hyn sy'n debyg o ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod yn hytrach na hoelio eu sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y misoedd a aeth heibio.

Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.

Fel plentyn yn mynnu codi crachen oddi ar friw, fe eisteddais yn union gyferbyn a ffenestr y gegin, yn syllu trwyddi ar y cenllif, ac yn rhyw ddychmygu beth allai ddigwydd i'm lluddias i i fynd.

Er mwyn datblygu bywyd rhaid i adweithiau cemegol ddigwydd ar gyflymder rhesymol, ond os disgynna'r tymheredd yna mae cyfradd yr adweithiau hyn yn disgyn hefyd.

Rhag ofn i hynny ddigwydd, felly, rho di'r Afal Aur i mi.

'Pwy a wyr beth all ddigwydd gyda Robert Howley wedi'i anafu.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.

Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd yn Loch Ness cyn bo hir.

Fe ddigwydd pan fo metel ac ocsigen yn cyfuno.

Wnaiff dim ddigwydd i ti os byddi di'n hogyn da.' Aeth allan gan gau'r drws ar ei ôl.

Yr wyf yn rhoi pwys mawr ar yr hyn a ddigwydd ym Mhwllheli; fe fydd awdurdod cenedl wedyn y tu ôl i bopeth a wnawn.

Dechreuodd hynny ddigwydd yn fy hanes wedi cyrraedd yr Ysgol Fawr.