Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddillad

ddillad

Hefyd bod Ruth, geneth arall o blith 'plant' Pengwern, a Nolini ac Enomeris, wedi gweld Philti yn trin cornwyd oedd gan Pengwern ar ei glun, ac wrth gwrs fod ei ddillad wedi eu datod iddi fedru gwneud hyn.

Newid ei ddillad, a chymryd y car.

Byddai'r tad, efallai, yn ei ddillad gwaith yn eistedd yn syn yn y gegin, a'r fam yn syllu'n ddiddeall drwy'r ffer est wrth baratoi te.

Rhoddodd ddillad gorau Idris a Deio allan hefyd, rhaid bod yn dwt i fynd i weld Dad yn yr ysbyty.

Rhaid ei fod yn tynnu at ei hanner cant, ond mor olygus roedd o gyda'i berwig ddu a'i ddillad hardd.

Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o wedi bod yn cysgu yn ei ddillad ers wsos ag un goes allan o'r gwely!

Dangosiad o'r parch hyn ddydd ei angladd, y cynta' i gyrraedd yn y bore oedd Segundo Pena yn ei ddillad gora.

'Dim diolch,' meddai Huw gan ymgladdu dan ddillad y gwely.

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

Yn ei ddicter a'i wylltineb, tynnodd y crwydryn gyllell o'i boced i drywanu Idris ond torrodd honno'n ddarnau pan darodd yn erbyn y wisg ddur a oedd o dan ddillad Idris.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

(a hithau'n fis Mehefin!) Gorfu iddynt newid pob cerpyn o ddillad yma.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Aeth Anti a fi i siop ddillad a phrynodd het i mi.

y cwbl a wyddent oedd ei fod yn gwisgo siwt drwy 'r wythnos a hen ddillad ar y sul, yn hollol i 'r gwrthwyneb i 'r mwyafrif o drigolion y pentref.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

Yn weinidog ifanc, prynodd 'fwy nag un par o ddillad' gan Daniel Owen, 'gydag ambell ymgom yn yr ystafell fechan yng nghefn y siop.' Bywyd cyfnod Daniel Owen a ffurfiodd Elfed, a chariodd gydag ef, drwy ei oes faith, lawer iawn o nodau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd bathodyn Lithuania'n lliwgar-ffres ar ddillad swyddogion y maes awyr - yn ôl y drefn flaenoriaethau draddodiadol mewn sefyllfaoedd o'r fath, roedd iwnifforms ar ben y rhestr.

Pwyswch eich hun unwaith yr wythnos ar yr un glorian ac ar yr un adeg o'r dydd, gan wisgo'r un math o ddillad.

Yn aml, mewn llythyr, deuai cais i archebu siwt o ddillad gyda Dafydd Owen, teiliwr y Nyfer.

Ple mae gweddill ei ddillad, a sut y daeth i fod yn ei ôl ar y gwely?" gofynnodd i'r cŵn.

"Wrth gwrs,' meddwn, 'os arhoswch chi i'r meddyg gael golwg arna i, ac yna i mi newid i ddillad sych.'

Cysgodd y peilot yn dawel yno weddill y noson er na thynnodd ei ddillad iddi amdano.

"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.

Roedd pobl yn gwisgo pob math o ddillad ynddo.

Bu bron iddyn nhw â rhwygo'i ddillad wrth geisio eu dynnu i mewn i'r tŷ.

Cwynodd honno ar unwaith fod Guto a Rhodri wedi crafu blaenau eu hesgidiau newydd ond ni ddywedodd air o gymeradwyaeth am yr olwg sbriws oedd ar ddillad y tri, canlyniad ymdrechion Mali i'w cadw'n lân.

Hen lanc yn byw ar ei ben ei hun mewn bwthyn ar gwr Coed y Mynydd ac yn dod a'i ddillad o'r siambar i'r llawr ar foreau barrug er mwyn cael sefyll o dan y golau trydan i wisgo amdano a'i deimlo 'yn torri'r ias yn gynddeiris'.

Synhwyrwn ei gywilydd weithiau pan edrychwn ar y rhwysg yn ei esgidiau a'r tyllau yn ei ddillad.

Beth am 'i ddillad o, a'i fwyd, a'i lety?

Ac yn fuan iawn daethant o hyd i dors y tad a gweddill ei ddillad.

Tynnais ddillad y gwely oddi arno, ac edrychais ar ei gorff curiedig.

A chofiais am Ramon, brawd Fidel, yn disgrifio sut y byddai'r awdurdodau'n dod o hyd i ddillad nofwyr tanddwr wedi eu claddu yn y tywod.

'Rwy'n cofio edmygu ei dawn i blygu popeth, ac wedi i mi ei phriodi, 'rwy'n dal i edmygu'r ddawn arbennig hon o ofalu am bob dernyn o ddillad a'i blygu'n berffaith.

Roedd un Llandudno fel stryd gefn o'i gymharu a hwn a ymestynnai o'r naill ochr i'r llall yn un lein ddillad hir, ddi-ben- draw gyda phob math o geriach yn rhyw fudr symud uwch ei ben.

'Roedd Debora wedi codi, ac yn awr 'roedd hi'n agor drôr uchaf y gist ddillad.

Ac efallai, megis yr anogai yr Arglwydd Iesu dlodion dydd ei ymgnawdoliad i ystyried y lili ac ehediaid y nefoedd rhag gorofalu am ddillad a phorthiant, nad amhriodol yw i'r digartref feddwl am y crwbanod a'r malwod a chreaduriaid eraill y darparodd y Creawdwr a'r Cynhaliwr mor ddigonol ar gyfer eu problem tai.

Dôi ysbrydion i'r gell i'w boenydio, yr ymlynwyr a'r dialwyr i'w wawdio a'i boeni, i'w dynnu wrth ei ddillad a hisian yn ei wyneb fel seirff.

Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno.

Cariai'r tad fwndel o ddillad carpiog, a phâr o goesau tenau a wellingtons yn ymwthio allan ohono.

Rhan o ddefod angau'r Roma yw llosgi eiddo'r meirw, yn ddillad ac yn wely.

Gyda llaw, mae digonedd o ddillad ysgafn ar y gwely, neu am y corff, yn fwy effeithiol na thrwch o ddillad trwm.

Mewn ffatri ddillad ger Tripoli, dangoswyd i ni sut y mae athroniaeth Gadaffi yn gweithio'n ymarferol.

Yr oedd yn weithiwr tun bob modfedd ohono, gyda'i ddillad a'i lestri bwyd yn lân ac yn ddestlus bob amser.