Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddilys

ddilys

Pwy sydd â'r hawl i ddweud pa rai sy'n ddilys?

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Maen nhw'n hollol ddilys yn Gymraeg yn unig þ gydag ewyllys da.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Ymddengys fod y berthynas rhwng y ddeuddyn yn cael ei chydnabod fel priodas ddilys gan y gymdeithas o'u cwmpas.

Menter newydd a chyffrous iawn yw rhoi lle canolog i'r Gymraeg ym mywyd llywodraeth Cymru a dylai hynny fod ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yr un mor ddilys â'i gilydd o ran eu statws annibynnol.

Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.

c) cydnabod statws swyddogol yr iaith os ydyw datganiad Yr Arglwydd Roberts o Gonwy (pan oedd yn Weinidog Gwladol), Ty'r Cyffredin 15 Gorffennaf 1993 yn ddilys, a gadael i bobl Cymru fod yn ymwybodol o statws yr iaith.

Mae Llys Goruchaf Florida yn ystyried a yw'r ail gyfri sy'n digwydd mewn sawl man yn y dalaith yn ddilys ai peidio.

Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?

O ran democratiaeth, mae'r mudiad yn dal i ystyried athroniaeth Jefferson yn ddilys, ac mae'n cytuno'n llwyr â fformwla Lincoln o lywodraeth y bobl, gan y bobl, ar gyfer y bobl'.

A ddylai ddilyn ei arferion, ei draddodiadau, ei gredoau, ei foesau ei hun, ynteu dderbyn moesoldeb arall sydd yr un mor ddilys mewn traddodiad diwylliannol arall?

Nid oes un ddadl addysgol ddilys dros ladd ysgol mewn pentref ac yn sicr ddigon nid oes yr un ddadl gymdefflasol dros wneud hynny; y rhieni ac nid y biwrocratpell ddylai benderfynu tynged ysgol ein plant.

Nodir isod enghreifftiau a rydd flas ar rai o'r cwynion yn erbyn awdurdodau cynllunio y cafwyd eu bod yn ddilys yn ystod y flwyddyn -