Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddimai

ddimai

Dim un ddimai'n dyfod i mewn o unman, a phawb yn bwyta mwy na'i lwfans wrth fod gartref yn segur.

A hyn oll yn nannedd gwrthwynebiad ffyrnig y Toriaid a'r Blaid Lafur a'r Wasg Saesneg bron i gyd - a'r pwyllgor ei hun heb ddimai goch y delyn at y costau.

Arllwysodd Rhys y pres o'i gadw-mi-gei ar y gwely a'i gyfri'n ofalus er ei fod o'n gwybod i'r ddimai faint oedd ganddo oherwydd iddo gyfri'r pres y Sadwrn diwethaf hefyd a'r Sadwrn cyn hynny.

Byddai wedi bod wrth ei fodd yn eu cael, ond nid oedd dim amdani ond cyfaddef nad oedd ganddo ddimai goch i'w prynu.

Mae'n bosib llwyfannu drama am geiniog a dimai - ond mae'n rhaid cael cynllunydd i wneud i'r geiniog a'r ddimai yna weithio orau bosib.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Celwydd oedd y cyfan, meddai, ac nid oedd arno'r un ddimai o gyflog iddi.