Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddioddefaint

ddioddefaint

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd.

Weithiau rydach chi'n teimlo eich bod chi'n torri i mewn ar ddioddefaint pobl ac mae hynny'n gwneud ichi sylweddoli pa mor giaidd y mae newyddion yn gallu bod.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Oedi anorfod wrth godi gwersylloedd, yn hytrach na chreulondeb bwriadol, oedd yn gyfrifol am ddioddefaint y trueiniaid ar strydoedd Piranshahr.

Er gwaetha'r holl ddioddefaint, nid mater hawdd yw ennyn diddordeb.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.

Wyddoch chi ddim am ddioddefaint y rhai a gafodd eu herlid gan y wladwriaeth.'