Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiogelu

ddiogelu

Ar yr un pryd tynnodd ef sylw y ddirprwyaeth at ddyletswydd y Llywodraeth i sicrhau cludo bwyd a phobl, ac i ddiogelu'r cyhoedd ac eiddo.

Gan mae dyma'r cynghorau sydd agosaf at y bobl a'r cymunedau, mewn sawl ystyr, gallant baratoi awgrymiadau ar sut i ddiogelu ac i hyrwyddo iaith Gymraeg ar y lefel mwyaf sylfaenol e.e.

Oherwydd hynny, galwa'r Gymdeithas ar y Swyddfa Gymreig i drefnu symposiwm o'r awdurdodau cynllunio lleol, y Bwrdd Iaith, y Mentrau Iaith, a'r Gymdeithas er mwyn trafod syniadau newydd i ddefnyddio'r gyfundrefn cynllunio ar gyfer defnydd tir i ddiogelu a meithrin y Gymraeg.

Dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod angen strategaeth gadarnhaol arnom i ddiogelu ysgolion gwledig.

Mae'n anodd meddwl am neb a fuasai'n awyddus i hawlio'r cyfansoddiadau hyn fel ei waith personol, ond mewn oes pan oedd llên-ladrad yn rhemp, dysgodd y Meudwy drwy brofiad chwerw, mae'n rhaid, y dylai ddiogelu ei gynhyrchion, a dyma paham y ceir 'Entered at Stationer's Hall', 'All Rights Reserved' ac 'Ni ellir argraffu y cyfansoddiadau hyn heb ganiatâd yr awdur' ar bob un o'i lyfrau.

Am dy ddiogelu rhag bwriadau drwg dynion y mae.

Datblygodd ymgeision i ddiogelu llongddrylliadau nid yn gymaint oherwydd polisi systematig ond yn hytrach fel ymateb i wahanol argyfyngau.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Yn enghraifft wych o ddiogelu ceinder iaith a pharhau'n ddealladwy.

Dyw e ddim yn rhad ond maen ffordd o ddiogelu y bydd Cwpan Lloegr yn dod i Gaerdydd a bydde colli'r gystadleuaeth honno yn ddrutach o lawer.

Yn ôl Mr Morgan gellid ond rhoi grant os buasai'r cwmni'n gallu profi ei fod yn hanfodol i greu neu ddiogelu swyddi.

Mae penodiad o'r fath yn un blaengar a holl bwysig os ydym am ddiogelu buddiannau plant yn ein gwlad.

Fodd bynnag, ni all un ohonom warantu, hyd yn oed gyda'r ffydd fwyaf cadarn y bydd unrhyw gynllun i ddiogelu dyfodol y Gymraeg yn llwyddo, ond fe wyddom oll mor sicr ag y mae'r dydd yn troi'n nos beth fyddai'n digwydd petai ni'n peidio â gwneud dim.

Yn sicr, doethineb elfennol ar ran y neb a fynnai ei mentro hi a fyddai gwisgo helm i ddiogelu ei benwendid.

Os na lwyddasant i gadw'u hen ffurf, llwyddasant o leiaf i ddiogelu rhyw gymaint o'r gogoniant a fu.

I unrhywun wnaeth ddilyn yr hanes roedd oriau olaf negodi'r cytundeb yn un llawn drama gydag Unoliaethwyr a Gweriniaethwyr yn gadael ystafelloedd ac yn strancio gan fynnu bod eu safbwynt hwy yn cael ei ddiogelu gan y geiriad.

Byddai'n golygu y byddai rhai meddygon yn gorfod cefnu ar eu haddewid i ddiogelu bywyd, costied a gostio - egwyddor sydd eisoes wedi ei chleisio gan nifer enfawr yr erthyliadau sy'n digwydd.

W^yr, frodyr a thadau - mae yr adeg yn dyfod, ac yr awr hon yw, pan yn rhaid i ni ymfyddino gyda'n gilydd i ddiogelu addysg ein gwlad .

Yng ngwaith yr athronydd Immanuel Kant y cafwyd yr ymdrech fwyaf trylwyr i ddiogelu'r briodas.

Ac i Dduw y mae teulu dyn yn atebol am ddiogelu a meithrin y cyfoeth hwn.

Nodiadau: Mae'n amlwg o eiriau'r dau gi o'r Quango Iaith eu bod am ddiogelu eu sefyllfa hwy eu hunain yn unig, ac yn mynd dros ben llestri wrth geisio ddarbwyllo eraill i ymmdiried yn y Bwrdd.

O gyfnod cynnar iawn ac mewn sawl gwlad credodd pobl fod yr ysgub yn foddion i ddiogelu'r cartref rhag y Diafol ac ysbrydion drwg o bob math.

Mae penodiad o'r fath yn un blaengar ac holl bwysig os ydym am ddiogelu buddianau plant yn ein gwlad.

Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.

Dysg ein cenhedlaeth ni i fawrygu'r fraint honno gan ddiogelu ffrwythlonder y ddaear a chydnabod mai dy drefn Di'n unig a sicrha degwch i blanhigion ac anifeiliaid ac i blant dynion.

Dan y ddeddf hon gall Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fasnach roi gorchymyn i ddiogelu safle rhag unrhyw ymyrraeth gan bobl nad oes hawl ganddynt.

Ni fynnwn honni am eiliad fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o leiaf, yr oedd ei reddfau llenyddol yn ddigon cadarn i sicrhau fod pob ystyriaeth ramadegol yn cyd-uno i ddiogelu'r effaith a'r dôn y mynnai eu consurio.

Ceir pobl eithaf amlwg ac eithaf diwylliedig yn barnu nad oes dim mewn llenyddiaeth Gymraeg sy'n werth ei ddysgu na'i ddiogelu.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Felly pwysodd y Gymdeithas ar gynghorau i ddiogelu tai i bobl leol.

Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.