Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddirfawr

ddirfawr

Mae angen triphwynt yn ddirfawr ar Abertawe, ac ar Luton.

Cymysgedd yr ydw i'n dechra amau y byddai o ddirfawr les i Gruff acw wrthi - achos mai fo ydy'r unig ddyn yng Nghymru, synnwn i ddim, sy'n cwyno ei fod o wedi blino gormod a bod ganddo fo gur yn 'i ben ar yr un pryd.

Ar wahan i orfod ad-dalu'r swm ei hun, mae'n rhaid talu'r llogau, wrth gwrs, ac mae'r rhain yn amrywio'n ddirfawr o le i le.

I'r anifeiliaid a'r planhigion fel ei gilydd, mae yna ddirfawr werth yn yr encilio i gyflwr aros a disgwyl dros dymor digroeso'r gaeaf.

Ychwanegodd y pethau hyn o blith y llwch a'r baw yn storws Dafydd William yn ddirfawr at werth fy llyfrgell i.

Yn ddiweddarach, roedd y ddau yma wedi addasu eu dull a'u hamcan yn ddirfawr.

Amrywiai'r ysgolion hyn yn ddirfawr o rai gweddol dda i rai a gynhelid mewn ystafell fechan dywyll gan hen wraig a wyddai efallai air neu ddau o Saesneg, ac o'r herwydd yn cael ei chyfrif yn ysgolhaig.

Gwelodd Gwen ei ddirfawr helbul, ac nid edliwiodd air iddo.

Cwympodd Darren mewn cariad gydag Emma a chafodd ei siomi'n ddirfawr pan ddewisodd hi Madog yn hytrach nag ef.

Ond effeithiodd yr helynt yn ddirfawr ar Newman ei hun.

'Roedd wedi colli ei briod bedair blynedd yn gynharach, ac effeithiodd y golled hon yn ddirfawr arno.

Yr adeg honno rhaid oedd allforio unrhyw gynnyrch tebyg i lo gan nad oedd rheilffyrdd i'w cael a defnyddio'r camlesi'n ychwanegu'n ddirfawr at y gost, a'r gwaith yn llafurus iawn.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.