Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddirgelwch

ddirgelwch

Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.

Yng ngeiriau Swyddog y Cynulliad y Gymdeithas (yntau â thipyn o ddirgelwch yn perthyn iddo): 'Mae'r sefyllfa hon yn llawn dirgelwch.

Dod i adnabod person arall pan oedd yr adnabod mor bwysig; ymhyfrydu ymhob darganfyddiad bach a ychwanegai'r gronyn lleia o ddiffiniad ar ddirgelwch annelwig cymeriad.

Y mae actio David Lyn ar gyweirnod uwch nag un John Ogwen ond yna mae Williams yn ddirgelwch o gymeriad ac o bosibl ar y ffin rhwng gorffwylledd a normalrwydd.

Roedd yn ddirgelwch i Joni sut y gallai unrhyw ddyn syrthio mewn cariad efo'u Sandra nhw.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Y mae cymaint mwy i'w ddysgu eto, ac erys bywyd o hyd yn rhyfeddod ac yn ddirgelwch.

Nid oedd ddirgelwch yn y bydysawd i gyd na ellid ei ddatrys trwy gymhwyso'r method gwyddonol.

Diflannodd llawer o ddirgelwch gwaith yr alcemegwr ynghyd a'r hud a lledrith a berthynai iddo, pan ganolbwyntiodd Robert Boyle ffisegydd a chemegydd Prydeinig, ar ddatblygu moddion a phils i'r claf.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Fyth oddi ar hynny bu ei ddiflaniad yn boen meddwl i'w deulu ac yn ddirgelwch i'w gyd-filwyr a'i lu cyfeillion.

Gallwn gredu fod economeg yn bwysig ond nid yw economeg ar ei phen ei hun yn ddigon i dreiddio i ddirgelwch lliw'r rhosyn na llesmair ei bersawr.

Mae Undeb yr Annibynwyr yn dipyn o ddirgelwch i esgobaethwyr, presbyteriaid a methodistiaid.

Roedd ansicrwydd Woosnam yn amlwg, y tywod ar lawntiaun ddirgelwch llwyr iddo.

Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll - ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.

Y Mwmbwls yw'r bae cyntaf ar ochr ddwyreiniol Bro Gþyr, ac mae'r Garreg Galch a welir ger y Pier yn ddirgelwch llwyr i ddaearegwyr.

Ni all beidio â dychwelyd drachefn a thrachefn at ddirgelwch a rhyfeddod Un oedd yn Dduw yn dioddef marwolaeth.

Mae'r ddwy nofel wedi'u seilio ar ddirgelwch.

Nofel ddirgelwch a chomedi dywyll mewn un.

Yr hyn a erys yn ddirgelwch yw sut y codwyd y rwbel o'r pwll _ ac a ddefnyddiwyd wedyn yn sicr i ffurfio'r clawdd a rhoi sail gadarn iddo, ac yna sut codwyd y glo gan nad oedd peiriant Newcomen ar gael y pryd hynny.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.

Mewn cyfres o stori%au byrion, byrion, ffwrbwt weithiau, gyda thro yn y gynffon a rhyw islais o ddirgelwch yn gorwedd wrth wraidd nifer ohonyn nhw, mae'n edrych allan ar y byd, ambell waith yn chwyrn, ambell waith yn betrus, ond bob amser trwy lygaid unig ac ynysig un person sydd wedi ei charcharu yn ei chnawd a'i meidroldeb ei hunan.

Dipyn o ddirgelwch oedd y bwth hefyd pan gyrhaeddson nhw'r lle yn y diwedd.

Yr oedd Steve Reeves a fu farw ar Fai 1 yn dipyn o ddirgelwch i mi ers talwm.

Ac y mae'n ddirgelwch llwyr pam a sut y cafodd Edgar, Pas Candryll, docyn Equity.