Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddisgrifiadau

ddisgrifiadau

Doedd dim asiantau gwerthu tai yn yr Oesoedd Canol ond mae gennym ni ddisgrifiadau gwych o ambell dy pwysig o'r cyfnod.

Cawn hefyd ddisgrifiadau manwl o'r ffordd y mae trigolion yr ardal yn ymateb i ddiflaniad Margaret a hanes cyflawn y golygfeydd yn y capel pan gyfyd cwestiynau am ei hymddygiad.

Nid oes yna yr un gan sy'n merwino'r glust yn y casgliad o ganeuon er bod yna un neu ddwy yn arbrofol - fel Cartref sy'n restr o ddisgrifiadau o dai ar werth.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Ni wn i, ond byddaf yn pensynnu rhywfaint ac yn cael amheuon ar y mater wrth weld yr olwg arallfydol yn llygaid ambell estate agent, ac wrth ryfeddu uwchben ar ucheledd dychymyg ei ddisgrifiadau o'r ffermydd sydd ganddo ar werth.

Nid yw'r un i ddysgwyr mor gyfoethog ei ddisgrifiadau a'i fanylion ac roedd braidd yn chwithig i mi ei ddarllen - dim hanner mor naturiol a'r fersiwn i blant Cymraeg iaith gyntaf.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Ac ar ben hynny y mae ganddo ddisgrifiadau dadleniadol o'r prif ddigwyddiadau a symudiadau.

Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod ôl-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd.