Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiswyddo

ddiswyddo

Ac wedi iddo gyrraedd y gwaelod, efe a gyfododd ar ei draed ac a ystyriodd ynddo'i hun pa un a ddylai efe ymweld â swyddfa perchen yr adeilad i erfyn arno ddiswyddo'r wraig dlawd.

Yr oedd hefyd yn filwrol ei gydymdeimlad ac wedi brifo teimladau Waldo droeon drwy ddweud pethau cas ynghylch ei basiffistiaeth, ac wedi gweithio'n ei erbyn ar y pwyllgor addysg i'w ddiswyddo.

Yng ngolwg llaweroedd, dychmygol yn unig oedd y rhagfuriau rhwng Lambeth a'r Fatican, a derbyniodd Esgob Bagot, Rhydychen, lu o lythyrau yn galw am ddiswyddo Newman.

Mae Harry Redknapp yn honni iddo gael ei ddiswyddo gan West Ham.

Ond rhag rhoi'r argraff fod y bai i gyd ar y darllenwyr am beidio â sylwi ar lithriadau o eiddo'r golygyddion prysur, cystal gorffen trwy ddweud fod lle i gredu i un golygydd gael ei ddiswyddo gan y BBC am gyfieithu mai haid o wenyn oedd y "buzzard" a ymosododd ar fachgen o'r Canolbarth !